Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Novel Coronavirus) – nodyn briffio’r cyhoedd 15.5.20
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
park and ride
Wrecsam v Portsmouth – cofiwch am y Parcio a Theithio
Digwyddiadau Pobl a lle
Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!
Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant AoS, yn ymweld â'r Hyb Creadigol newydd yn Wrecsam
Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant AoS, yn ymweld â’r Hyb Creadigol newydd yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Dementia
Gweithdai cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia – cadwch eich lle!
Digwyddiadau
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Novel Coronavirus) – nodyn briffio’r cyhoedd 15.5.20
Y cyngor

Covid-19 (Novel Coronavirus) – nodyn briffio’r cyhoedd 15.5.20

Diweddarwyd diwethaf: 2020/05/21 at 4:34 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Covid 19
RHANNU
Mae’r nodyn hwn yn darparu diweddariad ar yr wybodaeth a bostiwyd yn y blog hwn ddydd Llun (11.5.20).

Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw

• Agorodd ein canolfannau ailgylchu gwastraff cartref yn gynharach heddiw (dydd Gwener, 15 Mai). Ewch yno dim ond os oes wir raid, a chadwch at y rheolau.
• Peidiwch â gyrru i’n parciau’r penwythnos hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir y dylai pobl yng Nghymru barhau i wneud ymarfer corff yn lleol.
• Byddwn yn treialu defnyddio Zoom er mwyn cynnal cyfarfodydd pwyllgorau.

Cynnwys
Mae’r nodyn hwn yn darparu diweddariad ar yr wybodaeth a bostiwyd yn y blog hwn ddydd Llun (11.5.20).Negeseuon allweddol ar gyfer heddiwIan Bancroft – Prif WeithredwrMark Pritchard – Arweinydd y CyngorCyn ymweld â’n canolfannau ailgylchu…Arhoswch gartref y penwythnos hwnCyfarfodydd y CyngorCofiwch – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Cyn ymweld â’n canolfannau ailgylchu…

Ail-agorodd ein canolfannau ailgylchu gwastraff cartref yn gynharach heddiw (dydd Gwener, Mai 15).

Caewyd y safleoedd ddechrau mis Ebrill fel rhan o ymateb y cyngor i Covid-19, ond yn dilyn rhai newidiadau bychan i’r cyfyngiadau ar symud yng Nghymru, rydym wedi gallu eu hailagor.

Mae Coronafeirws wedi dod â newidiadau mawr i fywyd bob dydd, a bydd nifer o bobl yn falch o’u gweld yn agor unwaith eto.

Ond, os ydych yn ysu am gael llwytho’r car a dod draw, arhoswch am funud i ystyried hyn…

1. Er bod y safleoedd wedi ailagor, dylech ymweld â nhw ddim ond os ydych wir angen.
2. Os ydych yn ymweld, mae’n rhaid i chi ddilyn y 10 rheol lem yr ydym yn eu gweithredu.

Fel mae’n digwydd, bu’n rhaid i ni gau ein safle ym Mrymbo heddiw oherwydd galw mawr a chiwiau traffig.

Oherwydd traffig trwm, rydym wedi cau'r canolfan ailgylchu Brymbo yn gynharach nag oeddem wedi bwriadi. Bydd y safle ar gau nes ein bod wedi adolygu pethau wythnos nesaf. Mae'r safleoedd Lôn y Bryn a Phlas Madog dal ar agor, ond peidiwch ag ymweld oni bai bod wir angen.

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) May 15, 2020

Felly parhewch i ddilyn y rheolau ar gyfyngiadau symud yng Nghymru, ac ewch i’r canolfannau ailgylchu dim ond os oes gwir angen gwneud hynny, a dilynwch y rheolau pan fyddwch yno.

Cofiwch….. achub bywydau a gwarchod y GIG sy’n bwysig.

Arhoswch gartref y penwythnos hwn

Mae gwahaniaethau bychain rhwng y cyfyngiadau ar symud yng Nghymru a Lloegr ar y funud.

Ac wrth i ni ddod yn nes at y penwythnos, mae’n bwysig nad oes dryswch.

Yma yng Nghymru, mae’r neges ‘aros adref’ yn dal mewn lle.

Ac er y cewch adael eich cartref bellach i wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir y dylai pobl barhau i wneud ymarfer corff yn eu hardal leol.

Felly peidiwch â chael eich temtio i yrru i un o’n parciau i fynd â’r ci am dro neu i fynd i redeg ayyb. Does dim caniatâd i wneud hynny ar hyn o bryd.

Arhoswch yn lleol.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Cyfarfodydd y Cyngor

Fel y rhan fwyaf o gynghorau, rydym wedi bod yn edrych ar ffordd o ddechrau cynnal cyfarfodydd pwyllgorau unwaith eto.

Gohiriwyd cyfarfodydd ddiwedd mis Mawrth fel rhan o’n hymateb i Covid-19, ac yn unol â chynghorau ar draws y DU.

Un o’r sialensiau mwyaf yw cadw pellter cymdeithasol, gan fod cyfarfodydd yn tueddu i ddigwydd ‘yn y cnawd’ – gyda chynghorwyr, staff y cyngor ac eraill yn dod at ei gilydd mewn un ystafell.

Ond mae canllawiau a gyhoeddwyd y mis diwethaf wedi galluogi cynghorau i ystyried ffyrdd o gynnal cyfarfodydd allweddol unwaith eto.

O ganlyniad, rydym yn mynd i ddefnyddio fersiwn busnes Zoom – ap cynadledda poblogaidd – i gynnal tri rhith gyfarfod:

• Y Pwyllgor Archwilio – Mai 28
• Y Bwrdd Gweithredol – Mehefin 9
• Y Pwyllgor Cynllunio – Mehefin 22
•
Cyn belled ag y bydd technoleg ac ymarferoldeb yn caniatáu, byddwn yn anelu at gynnal y cyfarfodydd hyn yn y ffordd arferol – gan gynnwys y ffordd y caiff y cyfarfodydd eu cadeirio, derbyn cwestiynau ac ati.

Ni fyddwn yn ffrydio’r cyfarfodydd yn fyw ar y cychwyn, ond er mwyn hybu tryloywder, byddwn yn gwahodd y wasg leol i wylio ar-lein.

Wedyn, byddwn yn postio recordiad cyhoeddus ar-lein cyn gynted ag y gallwn.

Mae hyn yn mynd i fod yn faes cwbl newydd i ni, a bydd y cyfarfodydd cyntaf yn ein helpu i ymgyfarwyddo…fel y gallwn yn y pen draw ffrydio’r gweithrediadau’n fyw.

Fel pob cyngor, mae’n rhaid i ni arfer yn gyflym gyda thechnoleg newydd a ffyrdd newydd o wneud pethau.

Ond credwn y bydd y dull hwn yn rhoi ffordd i ni ganiatáu trafodaeth a gwneud penderfyniadau, gan gadw pawb yn ddiogel yr un pryd.

Cofiwch – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19

Darperir yr wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a’r hyn y dylai pobl ei wneud yn ei gylch drwy :

• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth) am tua 5pm.
• Datganiadau dyddiol gan Lywodraeth Cymru am tua 12.30pm.
• Briffio swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 11.5.20

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Companies Cwmnïau Wrecsam yn camu i’r adwy i ateb yr alwad am gymorth
Erthygl nesaf Life Under Lockdown Amgueddfa am gofnodi “Bywyd Lleol yn ystod y Cyfyngiad ar Symud” 2020 ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

park and ride
Wrecsam v Portsmouth – cofiwch am y Parcio a Theithio
Digwyddiadau Pobl a lle Chwefror 23, 2026
Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!
Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Chwefror 23, 2026
Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant AoS, yn ymweld â'r Hyb Creadigol newydd yn Wrecsam
Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant AoS, yn ymweld â’r Hyb Creadigol newydd yn Wrecsam
Busnes ac addysg Chwefror 23, 2026
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg Chwefror 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror...
Pobl a lleY cyngor

Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…

Chwefror 11, 2026
Women's Health Event 2026
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad Iechyd Menywod 2026

Chwefror 3, 2026
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lleY cyngor

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol

Ionawr 29, 2026
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English