Bydd Cyngor Wrecsam yn cynnal cyfarfod cyntaf y Bwrdd Gweithredol ers i bandemig Covid-19 ddechrau ym mis Mawrth, gan amharu ar holl gyfarfodydd pwyllgor y Cyngor oedd wedi’u trefnu.
Bydd yn cael ei gynnal dros Zoom ddydd Mawrth 9 Mehefin, a bydd y rhaglen a’r holl bapurau ar gael ar-lein fel arfer ddydd Mercher, 3 Mehefin.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Ni fydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei weddarlledu ond rydym yn gobeithio recordio’r cyfarfod gyda’r bwriad o’i gyhoeddi ar-lein yn nes ymlaen.
Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard a’r Prif Weithredwr, Ian Bancroft yn cytuno fod hyn yn gam cadarnhaol ymlaen: “Tra bod swyddogion ac aelodau wedi bod yn eithriadol o brysur yn y cefndir yn sicrhau fod gwasanaethau hanfodol yn parhau i weithio ac ymateb i anghenion ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn, gallwn ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol.
“Erbyn hyn, mae hi’n amser ailddechrau ein hamserlen ar gyfer cyfarfodydd amrywiol y Cyngor, er bod hyn yn digwydd mewn modd cryn wahanol.
“Trwy ddefnyddio Zoom, caiff holl aelodau’r Cyngor, 52 ohonynt, y cyfle i gymryd rhan yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol. Gan fod y mathau yma o gyfarfodydd yn debygol o fod yn arferol am gryn amser, rydym yn edrych ymlaen at eu darlledu’n fyw yn y dyfodol.
“Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb, ond rydym eisiau rhoi cyfle i bobl gael dweud eu dweud, ac i wybod fod y broses ddemocrataidd yn parhau”.
“Fe hoffem ddiolch i bawb, yr aelodau, staff a’r cyhoedd. Mae eu cefnogaeth a’u gwytnwch wedi ein helpu drwy’r misoedd diwethaf.
Mae aelodau o’r wasg wedi cael gwahoddiad i arsylwi ar-lein a gellir anfon cwestiynau’r cyhoedd ac aelodau yn unol â’n cyfansoddiad. Cewch fwy o wybodaeth yma:
https://www.wrexham.gov.uk/welsh/council_w/committees_new/public_questions.htm.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19