Rydym wedi ychwanegu podiau coffi at y rhestr o eitemau a gesglir yn ein canolfannau ailgylchu, mewn partneriaeth â Podback, y gwasanaeth ailgylchu podiau. Felly, gall preswylwyr nawr ailgylchu eu podiau coffi alwminiwm a phlastig yng nghanolfannau Lôn y Bryn, Brymbo a Phlas Madoc.
Gellir casglu podiau coffi, te a siocled poeth gartref nes bydd preswylwyr yn barod i fynd â nhw i’r canolfannau ailgylchu, lle y dylent eu gwagio’n rhydd i’r cynhwysydd Podback priodol ar gyfer podiau alwminiwm neu bodiau plastig. Bydd arwyddion amlwg ar y cynwysyddion Podback. Ni ddylid cynnwys bagiau a phecynnau eraill.
Mae angen casglu podiau plastig ac alwminiwm ar wahân, gan eu bod yn cael eu hailgylchu mewn cyfleusterau gwahanol. Caiff yr holl bodiau a gesglir gan Podback eu hailgylchu yn y DU. Cânt eu torri’n fân er mwyn cael gwared ar y coffi, ac yna caiff y plastig a’r alwminiwm eu defnyddio i greu deunyddiau newydd, gan gynnwys cynnyrch pecynnu, cynnyrch adeiladu a chydrannau ceir.
Caiff y gwaddodion coffi eu trin drwy’r broses treulio anaerobig er mwyn cynhyrchu ynni adnewyddadwy (bio-nwy) a deunydd gwella pridd.
Mae Podback yn wasanaeth ailgylchu nid er elw, sydd wedi’i sefydlu a’i ariannu gan systemau podiau coffi mwyaf blaenllaw’r DU – NESCAFE Dolce Gusto, Tassimo a Nespresso, a mwy na 25 o frandiau a manwerthwyr podiau coffi cenedlaethol.
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Podback i gyflwyno ffrwd ailgylchu arall yn y canolfannau ailgylchu ar gyfer ein preswylwyr. Gall y sawl sy’n yfed coffi bellach ei fwynhau, gan wybod bod modd ailgylchu’r podiau a’u defnyddio i greu cynnyrch newydd, ynni adnewyddadwy a deunydd gwella pridd.”
Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Podback, Rick Hindley: “Mae’n wych gallu ehangu’r gwasanaeth Podback ar gyfer canolfannau ailgylchu Wrecsam. Rydym eisiau ei gwneud mor rhwydd â phosibl i ailgylchu podiau coffi, ac mae’r gwasanaeth newydd hwn yn galluogi preswylwyr i ollwng y podiau pan fo’n gyfleus, yn ogystal â deunyddiau ailgylchu eraill, a helpu i leihau gwastraff ac ailgylchu mwy.”
Sicrhewch eich bod yn gwaredu eich fêps yn gyfrifol – Newyddion Cyngor Wrecsam