Mae Hysbysiad Gwella wedi ei gyflwyno ar y Red Lion, Marchwiail, wedi iddynt beidio â chymryd camau rhesymol i reoli trefniadau cadw pellter cymdeithasol yn yr eiddo.
Ymwelodd Swyddogion yr Heddlu â’r eiddo dros y penwythnos a darganfod nad oedd system Dracio ac Olrhain wedi ei gweithredu’n llawn.
Nid oedd gwasanaeth bwrdd, fel sy’n ofynnol yn ôl y rheoliadau. Sylwodd swyddogion hefyd ar dyrfa wrth y bar a rhannau eraill o’r eiddo, yn ogystal â cherddoriaeth uchel yn cael ei chwarae.
Cyhoeddwyd yr hysbysiad gan yr adran drwyddedu sy’n gweithio gyda rheolwyr yr eiddo i gywiro’r materion a godwyd.
Mae’r Hysbysiad Gwella yn golygu bod yn rhaid iddynt gydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol neu bydd camau pellach yn cael eu cymryd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a staff.
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam: “Mae hwn yn achos clir o dorri rheoliadau, gyda methiant i ddiogelu iechyd staff a chwsmeriaid, a oedd yn golygu nad oedd dewis gan swyddogion ond gosod Hysbysiad Gwella ar yr eiddo.
“Dydyn ni ddim eisiau cyflwyno’r hysbysiadau hyn ar eiddo, ond ni fyddwn yn oedi cyn gweithredu pan fod pobl yn cael eu peryglu. Byddwn yn gweithio rŵan gyda’r Red Lion ym Marchwiail i ddarparu arweiniad pellach a’u helpu i gyflawni cydymffurfiad â’r rheoliadau. Mae’n hollbwysig fod pob sefydliad yn dilyn y rheolau er mwyn helpu cadw Wrecsam yn ddiogel.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG