Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am eich barn chi ar y pethau y dylai Cymru ganolbwyntio arnyn nhw wrth i ni adfer pethau yn dilyn argyfwng y coronafeirws (Covid-19).
Ym mis Mai gofynnwyd i bobl anfon e-bost i cymrueindyfodol@llyw.cymru gyda’u barn am sut y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi proses adfer ac ailgodi yng Nghymru ar ôl Covid-19. Cafwyd ymateb da iawn, fe’ch anogir o hyd i gysylltu gyda’ch syniadau.
Meddai Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: “Mae dros fil o negeseuon wedi cyrraedd y blwch e-bost pwrpasol a grëwyd i’r diben hwn: cymrueindyfodol@llyw.cymru . Mae’r dasg o’u hadolygu yn mynd rhagddi a’n neges i bobl Cymru yw – ‘daliwch ati i’w hanfon’.
“Mae llawer o’r negeseuon wedi bod yn heriol a chreadigol. Bydd dadansoddi ac adeiladu ar y syniadau sydd wedi dod i law yn rhan allweddol o’n gwaith adfer yn ystod yr ychydig wythnosau a misoedd nesaf.”
Os hoffech chi ddweud eich dweud, anfonwch eich sylwadau i cymrueindyfodol@llyw.cymru
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN