Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cymrwch ran yn y Cyfrif Glöynnod Byw Mawr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cymrwch ran yn y Cyfrif Glöynnod Byw Mawr
Pobl a lle

Cymrwch ran yn y Cyfrif Glöynnod Byw Mawr

Diweddarwyd diwethaf: Awst 5, 2019 2:22 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cymrwch ran yn y Cyfrif Glöynnod Byw Mawr
RHANNU

Mae’r Gadwraeth Glöynnod Byw yn gofyn i ni gyd gymryd rhan yn eu Cyfrif Glöynnod Byw Mawr blynyddol sy’n cael ei gynnal ddydd Sul, 11 Awst.

Cynnwys
  • “Sut ydw i’n cymryd rhan?”
  • “Tydw i ddim yn dda iawn am adnabod gloÿnnod byw”

Dyma’r digwyddiad mwyaf o’i fath yn y byd gyda dros 100,000 o bobl yn cymryd rhan y llynedd. Mae’n helpu i fonitro iechyd yr amgylchedd gan fod gloÿnnod byw yn ymateb i newidiadau yn eu hamgylchedd yn sydyn iawn.

Mae gostyngiad yn niferoedd gloÿnnod byw yn rhybudd cynnar ar gyfer colledion bywyd gwyllt eraill hefyd.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Cymerodd dros 100,000 o bobl ran yn 2018, gan gyflwyno 97,133 o gofnodion am loÿnnod byw a gwyfynod dydd yn y DU.

“Sut ydw i’n cymryd rhan?”

Y cyfan sy’n rhaid i chi wneud yw cyfrif gloÿnnod byw am 15 munud yn ystod tywydd disglair, yn ddelfrydol pan fo’n heulog. Gallwch fod yn eistedd lawr yn cael seibiant bychan neu allan am dro yn eich hoff barc.

Mae ceidwaid parc gwledig yn Nhŷ Mawr wedi torri llwybr drwy’r caeau fel y gall bobl gerdded drwyddynt, felly byddai hyn yn berffaith.

Mae ganddynt faes parcio blodau gwyllt hyfryd hefyd felly mae digon o gyfleoedd ar gael i dreulio 15 munud gyda chyfle gwych o weld gloÿnnod byw.”

“Tydw i ddim yn dda iawn am adnabod gloÿnnod byw”

Tydi hynny ddim problem o gwbl. Mae gan y Gadwraeth Glöynnod byw siart defnyddiol y gallwch ei lawrlwytho a’i ddefnyddio. Mae o ar gael ar eu gwefan, yma.

Gallwch gymryd rhan fwy nag unwaith hyd at 11 Awst a gallwch anfon eich cofnod ar-lein yn www.bigbutterflycount.org neu drwy ddefnyddio eu ap ffôn clyfar o’r enw Big Butterfly Count sydd ar gael AM DDIM ar iOS ac Android…

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy wylio’r fideo defnyddiol hwn.

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Nid yw’n anodd cymryd rhan ac mae cyfrif gloÿnnod byw yn ffordd dda o wirio cyflwr bioamrywiaeth Wrecsam a ledled y DU. Rwy’n gobeithio y bydd llawer o breswylwyr, hen ac ifanc, yn cymryd rhan ac mae ceidwaid y parc wedi gwneud yn siŵr y bydd ein parciau gwledig yn darparu lleoliad ysblennydd ar gyfer unrhyw gyfrif.”

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/english/education/school_uniform_grant.htm “] APPLY FOR A PUPIL DEVELOPMENT GRANT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi erioed wedi ystyried gwirfoddoli? Gwyliwch stori ysbrydoledig Leigh... Ydych chi erioed wedi ystyried gwirfoddoli? Gwyliwch stori ysbrydoledig Leigh…
Erthygl nesaf Mae’n amser cynnal cystadleuaeth i’r plant! Mae’n amser cynnal cystadleuaeth i’r plant!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English