Mae cwrs a ariennir gan Bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Caia a Hightown wedi gweld myfyrwyr yn dathlu ar ôl i bob un basio eu cwrs Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol.
Mae’r cwrs yn cefnogi pobl i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau ac yn rhoi hyder iddyn nhw gael cyflogaeth ym maes gofal cymdeithasol. Mae’n gwrs 7 wythnos a chyrhaeddodd 9 myfyriwr y radd angenrheidiol a phasio’r cwrs.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
During the course one individual gained employment and three have since gained employment. Two have decided to continue with their education.
Yn ystod y cwrs, llwyddodd un unigolyn i gael swydd ac mae tri wedi cael swydd ers hynny. Mae dau wedi penderfynu parhau â’u haddysg.
Llongyfarchodd yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion, y Cynghorydd Joan Lowe y rhai a basiodd y cwrs, gan ddweud: “Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn helpu i sicrhau bod gan bobl y sgiliau cywir i ddatblygu gyda gwaith neu addysg bellach. Mae pawb wedi gwneud yn dda iawn a dylen nhw fod yn falch iawn o’u hunain.”
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.