Mae Cyngor Wrecsam wedi croesawu’r newyddion nad yw ysgol gynradd leol bellach yn gorfod cael ei monitro.
Yn 2019, rhoddwyd Ysgol Sant Dunawd ym Mangor-Is-y-Coed dan adolygiad gan Estyn yr arolygiaeth addysg, pan ganfuwyd bod rhai meysydd yn “ddigonol ac angen eu gwella.”
Fodd bynnag, nid yw’r ysgol bellach yn cael ei monitro ar ôl gwneud cynnydd.
Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam:
“Mae Ysgol Sant Dunawd yn darparu amgylchedd dysgu hyfryd i’r plant, ac rwy’n hynod o falch o’r adborth cadarnhaol gan Estyn sy’n adlewyrchu ymrwymiad diflino a gwaith caled staff, llywodraethwyr, disgyblion a rhieni.
“Yn debyg i bob sefydliad addysgiadol arall, fe fydd yr ysgol wedi wynebu llawer o heriau ychwanegol dros y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd pandemig Covid, felly mae’n newyddion gwych iawn eu bod wedi gallu gwneud cynnydd mor gadarnhaol yn ystod cyfnod anodd.
“Fe hoffwn i ddiolch i’r Pennaeth Sara Tate, a phawb yn yr ysgol am eu gwaith rhagorol.”