Mae mwy na 32,000 o fwytai ar draws y DU eisoes wedi cofrestru ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan.
Nid bwytai yn unig sy’n gymwys – mae’r cynllun ar agor i bob sefydliad sy’n gwerthu bwyd i’w fwyta ar y safle; fel gwestai, canolfannau hamdden a ffreuturau yn y gweithle.
Gall sefydliadau cymwys gofrestru nawr, ac rydym yn annog busnesau i gofrestru’n gynnar er mwyn iddynt fod yn barod i ddefnyddio’r cynllun pan fydd yn dechrau ar 3 Awst.
Bydd busnesau sy’n defnyddio’r cynllun yn cynnig gostyngiad o 50%, hyd at uchafswm o £10 yr un, i bob person sy’n bwyta a/neu’n yfed y tu mewn ar ddydd Llun i ddydd Mercher drwy gydol mis Awst. Mae alcohol wedi’i eithrio o’r cynnig.
Does dim angen taleb ar gwsmeriaid, gan y bydd sefydliadau sy’n cymryd rhan yn didynnu’r gostyngiad o’r bil, ac yn adennill y gostyngiad drwy wasanaeth ar-lein.
Gellir cyflwyno hawliadau yn wythnosol a chânt eu talu i gyfrifon banc cyn pen pum diwrnod gwaith. Mae’n rhaid i fusnesau aros saith diwrnod ar ôl cofrestru cyn gwneud eu hawliad cyntaf.
Bydd sefydliadau sydd eisoes wedi cofrestru yn dechrau cael sticeri yr wythnos hon i’w rhoi yn eu ffenestri, ac felly gall cwsmeriaid ddechrau cadw llygaid ar agor am y logo.
Caiff sefydliadau sydd wedi’u cofrestru eu rhestri ar y twlsyn Ffeindio Bwyty ar-lein newydd, a fydd ar gael yn fuan ar wefan GOV.UK.
Mae rhagor o wybodaeth i fusnesau, gan gynnwys sut i gofrestru a chyflwyno hawliad, ar gael ar-lein.
Gweminarau:
Gall busnesau hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ymuno â’n gweminarau byw Bwyta Allan i Helpu Allan newydd sbon, neu drwy wylio recordiad ar sianel YouTube CThEM.