Ym Medi 2019 bu i ni ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Argyfwng Ecolegol ac ers hynny rydym wedi bod yn gweithio ar ein Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio i osod sut byddwn yn cyflawni’r targed uchelgeisiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd mae’r cynllun hwnnw bellach yn barod i’w ystyried ar gyfer cymeradwyaeth gan y Bwrdd Gweithredol a fydd yn ei ystyried pan fyddant yn cyfarfod nesaf ar 18 Mai.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Mae’r Cynllun arfaethedig yn canolbwyntio ar bedwar maes:
- Adeiladau
- Cludiant a Symudedd
- Defnydd Tir
- Caffael (y ffordd yr ydym yn cael gafael ar ein nwyddau a’n gwasanaethau)
Yn ogystal ag amlygu’r gwaith yr ydym eisoes wedi’i wneud yn y meysydd pwysig hyn, mae hefyd yn darparu manylion am ein cynlluniau dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf mewn perthynas â’r pedwar maes.
Pwysig arwain y ffordd
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a fydd yn cyflwyno’r adroddiad: “Mae newid hinsawdd yn rhywbeth sy’n agos iawn at galonnau nifer o bobl ac fel un o’r prif gyflogwyr yn yr ardal mae’n bwysig iawn ein bod yn arwain y ffordd wrth ostwng ein hallyriadau carbon ein hunain ac annog eraill i wneud yr un fath.
“Mae’r Cynllun yn amrywiol ac yn cynnig newidiadau a gwelliannau o ran sut rydym yn cael ein nwyddau a’n gwasanaethau gan gontractwyr a chyflenwyr, sut gallwn ddefnyddio’r tir rydym yn ei berchen yn y ffordd fwyaf ecolegol ac ecogyfeillgar i ba gerbydau rydym yn eu gyrru a pha mor gynaliadwy yw ein hadeiladau.
“Bydd yn gynllun a ellir ei addasu yn unol â gwahanol amgylchiadau a bydd yn hyblyg. Byddwn yn barod i addasu a chymryd mantais o bob cyfle i’n helpu i ddod yn awdurdod di-garbon.
Edrychwch ar y cynllun yma.
Mae’r Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod am 10am ar 18 Mai a gallwch wylio ar-lein yma.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF