Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynlluniau ar ddangos ar gyfer dyfodol yr ystad dai hon..
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cynlluniau ar ddangos ar gyfer dyfodol yr ystad dai hon..
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Cynlluniau ar ddangos ar gyfer dyfodol yr ystad dai hon..

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 6, 2018 3:09 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cynlluniau ar ddangos ar gyfer dyfodol yr ystad dai hon..
RHANNU

Gwahoddir tenantiaid y Cyngor i ddigwyddiad gwybodaeth am welliannau fydd yn cael eu gwneud i’w cartrefi.

Cynnwys
  • Cynlluniau mawr ar gyfer yr ystâd
  • Mwy o welliannau ar y ffordd

Rydym ni ar hyn o bryd yn moderneiddio cannoedd o gartrefi ar Stad Plas Madoc i sicrhau eu bod yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru.
Mae’r gwelliannau yn cynnwys ail-doi ac insiwleiddio waliau allanol.

Mae’r deunydd inswleiddio wedi ei gynllunio i gadw tai yn gynhesach, gwella eu hedrychiad ac estyn hyd oes yr adeiladau.

Mae cam cyntaf y gwaith ar y gweill yn ardaloedd Bodlyn, Bran, Aled, ac Idwal. Mae’r gwaith ar rai cartrefi yn Idwal wedi ei wneud yn barod (gweler y llun).

Mae’r ail gam yn cychwyn cyn bo hir ar gartrefi yn ardaloedd Alwen, Dinas, Glaslyn, Gwynant a Pheris.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

Cynlluniau ar ddangos ar gyfer dyfodol yr ystad dai hon..
Gwaith gwella wedi’i gwblhau yn idwal

Cynlluniau mawr ar gyfer yr ystâd

Bydd y digwyddiad gwybodaeth yn gyfle i denantiaid weld y cynlluniau ar gyfer eu cartrefi. Bydd Swyddogion Tai wrth law i ateb unrhyw gwestiwn am y gwaith.

Mi fydd yna hefyd gyfle i weld cynigion/cynlluniau cychwynnol yr eiddo newydd rydym ni’n bwriadu eu codi ar y stad.

Mwy o welliannau ar y ffordd

Ym mis Chwefror, cymeradwyodd Bwrdd Gweithredol y Cyngor gynnig i fuddsoddi o £50.3 miliwn i barhau â’r gwaith o wella tai yn 2018/19.

Mae hyn yn cynnwys grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr a ddyfernir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol i’w cefnogi nhw i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai, y Cyng. David Griffiths: “Rydym ni wedi ymrwymo’r buddsoddiad anferthol hwn i’n helpu ni parhau â’r gwelliannau ar draws y fwrdeistref sirol yn ystod y 12 mis nesaf. Ein nod yw sicrhau bod cartrefi ein holl denantiaid yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020, ac mae’n falch gennyf ddweud ein bod ni ar y trywydd cywir i gyflawni hynny.”

Cynhelir y digwyddiad gwybodaeth yn Lolfa Acwa, Canolfan Hamdden Plas Madoc ar 11 Ebrill rhwng 2pm a 6pm.

Mae hwn yn ddigwyddiad galw heibio ac mae croeso i bawb.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiad, cysylltwch â Swyddfa Stad Plas Madoc ar 01978 813000 neu anfonwch e-bost at plasmadoc.estateoffice@wrexham.gov.uk

Am ragor o wybodaeth am ein prosiect gwella tai a Safon Ansawdd Tai Cymru, edrychwch ar wefan y cyngor

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Maer yn ffarwelio gyda “guten Tag” i ymwelwyr ifanc â gefeilldref Wrecsam Maer yn ffarwelio gyda “guten Tag” i ymwelwyr ifanc â gefeilldref Wrecsam
Erthygl nesaf Y Maer yn gwahodd beicwyr “sbinio” i helpu i fynd i’r afael â her elusennol! Y Maer yn gwahodd beicwyr “sbinio” i helpu i fynd i’r afael â her elusennol!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English