Mae cynlluniau’n symud ymlaen i greu Gardd Goffa gyda cherflun efydd o Ffiwsilwr Brenhinol Cymreig a gafr gatrodol wedi’i lifoleuo y tu allan i Farics Hightown. Mae’r trefnwyr bellach wedi cyhoeddi eu bod am werthu tocynnau raffl am £1 i roi hwb i’r gronfa sy’n tyfu.
Bydd yr Ardd Goffa yn costio oddeutu £95,000 ac mae bron i £50,000 o’r swm hwnnw eisoes wedi’i godi trwy roddion caredig gan grwpiau cymunedol a busnesau lleol.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae gwobrau’r raffl wedi cael eu rhoi y garedig gan gwmni Wisgi Penderyn o Llandudno sef:
Gwobr Gyntaf – 2 wobr ar wahân – lle i 2 ar Daith Dosbarth Meistr ym Mhenderyn Llandudno sy’n sesiwn 3 awr gyda dosbarth arogli a blasu wisgi a thaith o amgylch y ddistyllfa.
Ail wobr – wyth gwobr ar wahân – potel o Wisgi Penderyn Brag Sengl Madeira.
Trydedd wobr – 2 wobr ar wahân – taith o amgylch Distyllfa Penderyn Llandudno i grŵp o chwech o bobl.
Dywedodd y Cynghorydd Graham Rogers, “Mae’r cynlluniau yn symud ymlaen yn gyflym ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael dechrau arni. Bydd y raffl yn rhoi hwb i’r gronfa ac rydym bellach yn gwneud ail gais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri hefyd.
“Cefnogwch yr Ardd hon a fydd yn deyrnged addas i’r Barics, y milwyr a wasanaethodd yma ac er cof am bawb a gollwyd yn ystod y gwrthryfeloedd niferus y bu’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn gysylltiedig â nhw.”
Mae’r cerflunydd Nick Elphick eisoes wedi’i gomisiynu i greu’r cerflun a’r gobaith yw y bydd yn cael ei ddadorchuddio y flwyddyn nesaf.
Bydd y raffl yn cael ei thynnu yn nhafarn Bank ar Stryd Fawr Wrecsam, ar 17 Rhagfyr am hanner dydd.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno prynu tocyn raffl gysylltu â’r Cynghorydd Rogers ar: g.a.rogers3@btinternet.com or Mrs Karen Benfield ar: clerk@offacommunitycouncil.gov.uk
Byddant ar werth hefyd yn nigwyddiad Cynnau Goleuadau Nadolig BelleVue ar 26 Tachwedd ac mewn amryw o leoliadau yng nghanol y dref yn ystod yr wythnosau yn arwain at y diwrnod y tynnir y raffl.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button