Mae cyrtiau tennis yn Wrecsam wedi ailagor yn swyddogol yn dilyn gwaith ailwampio gwerth £14,756.66. Ddydd Llun, 27 Tachwedd, cynhaliwyd seremoni yng nghyrtiau tennis y Parciau ar eu newydd wedd lle’r oedd chynrychiolwyr o Gyngor Wrecsam, Llywodraeth y DU a’r Gymdeithas Tennis Lawnt yn bresennol.
Drwy’r Prosiect Tennis mewn Parciau, mae’r LTA yn darparu’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn cyfleusterau parciau tennis ar draws Prydain, sydd wedi trawsnewid y tri cwrt tennis yn y Parciau gan roi hwb sylweddol i gyfleusterau chwaraeon. Mae 1,500 o gyrtiau wedi cael eu trawsnewid fel rhan o fuddsoddiad £30 miliwn gan Lywodraeth y DU a’r LTA Tennis Foundation, gan adfer miloedd o gyrtiau tennis mewn cyflwr gwael ac anaddas er lles cymunedau ar draws y wlad a darparu cyfleoedd hanfodol i blant ac oedolion gadw’n heini.
Mae tri o gyrtiau tennis y Parciau wedi cael eu hail-beintio, a system giatiau newydd wedi cael ei gosod, a fydd yn ei gwneud yn haws i aelodau’r cyhoedd ddod o hyd i gyrtiau, archebu llefydd a chwarae tennis.
Ynghyd â’r buddsoddiad, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio gyda’r LTA i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau ar draws safleoedd y parc. Bydd hyn yn cynnwys darparu sesiynau tennis yn rhad ac am ddim mewn parciau a drefnir yn wythnosol i bawb o bob oed, lefel chwarae a phrofiad lle darparir offer, gan olygu na fydd yn rhaid i bobl gael rhywun i chwarae â nhw neu eu raced eu hunain. Bydd Cynghreiriau Tennis Lleol hefyd yn darparu cyfleoedd cyfeillgar a chymdeithasol i gadw’n heini drwy gystadlaethau lleol. Cadwch lygad allan ar ein cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn.
Mae cyrtiau tennis mewn parciau yn hanfodol o ran darparu cyfleoedd i blant ac oedolion gadw’n heini, ac yn darparu manteision corfforol ac iechyd meddwl a lles sylweddol i’r rhai sy’n cymryd rhan. Mae cyfleusterau hygyrch mewn parciau yn arbennig o bwysig o ran rhoi cyfleoedd i’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a merched a genethod gymryd rhan yn y gamp.
Bydd pob un o’r cyrtiau ar gael i’w harchebu ar wefan yr LTA. Mae systemau archebu newydd a thechnoleg mynediad giatiau’n golygu ei bod bellach yn haws i fynd ar y cyrtiau drwy archebu ymlaen llaw i sicrhau argaeledd.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae Wrecsam yn adnabyddus am bêl-droed, ond mae gennym un o’r cyfleusterau tennis dan do ac awyr agored mwyaf yn y DU hefyd (Canolfan Tennis Wrecsam), sy’n cynnal digwyddiadau rhyngwladol yn aml.
“Rydym yn gobeithio y bydd adnewyddu cyfleuster y Parciau yn caniatáu i fwy o aelodau’r gymuned gael mynediad at gyfleusterau tennis o ansawdd uchel a chymryd rhan yn y gêm.”
Dywedodd Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredu yn yr LTA:
“Rydym yn falch o gael gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i wella eu cyfleusterau tennis mewn parciau a darparu mwy o gyfleoedd i unrhyw un godi raced a chadw’n heini. Mae’r buddsoddiad yn rhan o Brosiect Tennis mewn Parciau Llywodraeth y DU a’r LTA, a bydd yn golygu y bydd cyrtiau ar gael i bobl eu defnyddio am flynyddoedd i ddod. Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i sicrhau bod gan y gymuned leol ystod o gyfleoedd hygyrch i fynd ar gyrtiau, ac agor ein camp i lawer mwy o bobl.”