Os ‘da chi’n blymwr cymwys sy’n chwilio am her newydd a chyffrous, byddwch yn bendant eisiau golwg ar y cyfle gwych yma.
‘Da ni’n chwilio a 4 Plymwr i wneud gwaith domestig yn ein tai cyngor.
Ryda ni’n cynnal ac yn ailwampio 11,200 o dai ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam a bydd yr unigolyn llwyddiannus yn chwarae rhan fawr mewn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn hapus ac yn gynnes, yn ogystal â sicrhau bod gwaith ailwampio yn ein tai gwag yn cael ei wneud i safon uchel ac ar amser.
Yn gyfnewid am hyn, gallwn gynnig oriau gwaith hyblyg, gwyliau blynyddol hael, cynllun pensiwn da, sicrwydd o waith ac amgylchedd gwaith lle bydd pob diwrnod yn wahanol.
‘Da chi’n barod am yr her? Dyma ychydig mwy o wybodaeth am y swydd…
Ynglŷn â’r Swydd
Bydd y gwaith yn cynnwys gwaith plymio a gwresogi fel rhan o’n hadran trwsio tai i safon dda a diogel. Ein hethos ni yw ‘gwneud y peth unwaith, gwneud y peth yn iawn’ ac rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn fodlon.
Ryda’ ni’n gwneud amrywiaeth o waith, o ymateb i geisiadau am waith trwsio gan denantiaid ein tai i adnewyddu tai gwag yn gyfan gwbl gan osod systemau gwresogi a gosodiadau domestig newydd sbon.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â chymhwyster City and Guilds mewn plymio (neu gymhwyster cyfatebol). Mae cymwysterau Gas Safe yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Mae trwydded yrru lawn yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae gen i ddiddordeb…..be ddylwn i ‘neud nesa’?
I weld y swydd ddisgrifiad llawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod.
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw ddydd Gwener, 6 Rhagfyr.
GWELD Y SWYDD DDISGRIFIAD