Bydd Gweithfeydd Haearn y Bers yn agor ei ddrysau ym mis Awst am ddeuddydd o hwyl hudolus i’r teulu 🙂
Bellach mae Gwaith Haearn y Bers a fu unwaith yn swnllyd, ac a wnaed yn enwog gan John ‘Iron Mad’ Wilkinson (ffigwr amlwg yn y Chwyldro Diwydiannol), yn gorwedd yn dawel yn Nyffryn hardd Clywedog, ddwy filltir y tu allan i Wrecsam.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Ond ddydd Gwener 9 Awst a dydd Sadwrn 10 Awst, rhwng 11am a 3pm, fe fydd yn llawn bwrlwm unwaith eto:
- Dewin y storïwr
- Creu ffon hud
- Paentio Wynebau
- Teithiau tywysedig o amgylch y gweithfeydd haearn
- Llwybr ‘Dwi’n gweld hefo’n llygad bach i’ i blant
- Heboga Hanesyddol Albion
- Saethwyr Blaidd Field (dydd Sadwrn yn unig)
Mae croeso i bawb a bydd byrbrydau ar gael, felly dewch â phicnic. Gallwch barcio am ddim hefyd.
Sylwch efallai y bydd yna dâl bychan am rai gweithgareddau.
“Cyfarwyddiadau”
Dilynwch yr arwyddion brown ar gyfer Bersham a Chlywedog naill ai o’r A525 i’r B5098, yr A483 i’r B5605 a B5098, neu’r B5099 i’r gorllewin o Wrecsam. Cadwch lygad am yr arwyddion brown ar gyfer Gwaith Haearn Ironworks. I barcio oddi ar y ffordd, parhewch heibio’r Gweithfeydd Haearn am 150m a gadewch y ffordd gyferbyn ag Eglwys y Bers.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION