Mae data twristiaeth blynyddol 2023 ar gyfer Cymru yn datgelu bod Wrecsam wedi profi ei berfformiad blynyddol cryfaf ers dechrau cadw cofnodion yn 2023, gyda bron i 20% o dwf o un flwyddyn i’r llall o ran gwariant ymwelwyr.
Mae Data STEAM blynyddol (y mae ardaloedd Awdurdodau Lleol ledled y DU yn eu defnyddio’n aml i fesur perfformiad twristiaeth) yn dangos bod adfywiad Wrecsam ers y pandemig yn parhau i dyfu ar gyflymder da, ac mae gwerth twristiaeth i Wrecsam wedi cynyddu 18.2% o 2022 i £179.4 miliwn heddiw. Mae hyn hefyd yn adlewyrchu twf anferth o 82% yn y ddegawd ddiwethaf – y mwyaf yng Nghymru – sy’n dangos datblygiad y Sir fel cyrchfan gystadleuol ar gyfer hamdden a busnes.
Delwedd uchod: Ymwelodd 25 o weithredwyr teithiau o’r UDA / Canada â Wrecsam ym mis Chwefror wrth i deithiau grŵp o dramor i Wrecsam ddod yn fwy poblogaidd!
Tyfodd cyfanswm nifer yr ymwelwyr 6.6% yn 2023, gydag ychydig dros ddwy filiwn yn ymweld â’r Sir y llynedd. Bu cynnydd o 8.1% yn nifer yr ymwelwyr undydd, ond dim ond 1.3% o dwf oedd yn nifer yr arosiadau dros nos. Mae hynny, o bosibl, yn adlewyrchu’r angen am lety ychwanegol o ansawdd uchel.
Teimlir y buddion ar lawr gwlad hefyd. Mae 1,758 o swyddi cyfwerth â llawn amser yn cael eu cynnal gan dwristiaeth – twf o 2.9% – er bod y sector yn dal i gael trafferth denu gweithwyr i’r sector, neu i’w weld yn gyfle gyrfaol dichonadwy.
Delwedd: Canol Dinas Wrecsam (Dyma Wrecsam).
Wrth siarad am y canlyniadau, dywedodd Sam Regan, Cadeirydd Partneriaeth Twristiaeth Dyma Wrecsam a pherchennog bwyty ac ystafelloedd The Lemon Tree:
“Rydym ni, fel cyrchfan, wrth ein boddau gweld ffigyrau mor dda. Rydym yn bendant wedi gweld cynnydd mawr ar lawr gwlad yn niferoedd yr ymwelwyd rhyngwladol i Wrecsam yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae effaith hynny wedi ei theimlo drwy weithredwyr – yn arbennig yng Nghanol y Ddinas. Yr hyn sy’n allweddol i ni ’rŵan fel partneriaeth dwristiaeth yw ceisio cynnwys Wrecsam ar fwy o amserlenni teithiau gyda phartneriaid, sicrhau cyllid ar gyfer mwy o welliannau i brofiadau ymwelwyr, targedu’r farchnad y tu allan i’r tymor, penwythnosau pan nad oes gemau, a chynyddu masnach yng nghanol yr wythnos i bawb. Fodd bynnag, mae gweld twristiaeth yn Wrecsam ar lwybr esgynnol yn newyddion gwych i bawb yn y sector!”
Canmolwyd gwytnwch busnesau lletygarwch lleol gan y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a diolchodd iddynt am eu gwaith yn tyfu’r sector:
“Mae canlyniadau diweddaraf perfformiad twristiaeth yn brawf o waith caled ac ymrwymiad ein busnesau lletygarwch a’u gwytnwch i gael ail wynt yn dilyn y pandemig.
Yn naturiol, mae Wrecsam wedi cael mwy o fudd o ymwelwyr tramor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, diolch i’r sylw a roddwyd i’r ddinas gan y rhaglen ddogfen.
O’m profiad i o fod yn siarad ag ymwelwyr a newyddiadurwyr teithio, yr atynfa i Wrecsam i lawer ohonynt yw cael gweld y Cae Ras – cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam – ond pan fônt yn cyrraedd, maent yn sylweddoli gwlad mor brydferth ydy hon rydym yn byw ynddi ar ôl ymweld ag ardaloedd fel Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte (sy’n 11 milltir o hyd), Erddig a Chastell y Waun.
Rwyf hefyd yn falch o weld datblygiad Wrecsam fel cyrchfan i ymwelwyr, gyda buddsoddiad newydd yng nghanol ein dinas, digwyddiadau mawrion yn cael eu cynnal, ein cynllun llysgenhadon ochr yn ochr â buddsoddiad preifat ac entrepreneuriaeth. Mae rhywfaint o hyn yn mynd i’r afael â phrinder llety dros nos, ac mae cynlluniau cyffrous ar gyfer ailwampio gwestai presennol a gwestai newydd yng nghanol y ddinas yn yr arfaeth, a fydd yn cadw mwy o wariant twristiaeth yn Wrecsam.
Mae’n bwysig ein bod yn adeiladu ar y sylfeini hyn i sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad cyffredinol gorau posibl a sicrhau y rhoddir Wrecsam yn glir ar y map fel lle i ymweld ag o.”
Delwedd uchod: Mae mwy na 300 o fyfyrwyr, staff lletygarwch ac aelodau o’r cyhoedd wedi dod yn Llysgenhadon Twristiaeth swyddogol ar gyfer Wrecsam yn y 12 mis diwethaf.
Ar ôl gwylio twf Wrecsam fel cyrchfan dwristiaeth ryngwladol, dywedodd yr ymgynghorydd lletygarwch a pherchennog newydd Hotel Wrexham, Steven Hesketh:
“Fel gweithredwr amlsafle ledled y Gogledd-orllewin, yr oedd yn amlwg y dylem ehangu i ogledd Cymru ac, yn arbennig, i Wrecsam o ystyried yr ystadegau presennol. Rydym yn buddsoddi’n seiliedig ar yr hyn rydym yn ei weld yn digwydd a’r teimlad sydd gennym fel cwmni, a phrofir hydwythedd Wrecsam yn uniongyrchol gan lawer. Rydym mor falch o gaffael Hotel Wrexham (Holt Lodge, gynt) a’n buddsoddiad yn y gwesty fflatiau newydd, The Registry, ar Stryt Caer. Mae aelodau’r tîm a minnau’n gweld dyfodol disglair i Wrecsam, gan ystyried ein buddsoddiadau ni, y newidiadau ardderchog yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam, y buddsoddiad o’r sector preifat ar yr Ystad Ddiwydiannol, y Brifysgol yn ehangu, a’r buddsoddiad ehangach sy’n dod drwy’r llywodraeth hefyd. Mae dyfodol Wrecsam yn hynod gyffrous!”
*Mae Data STEAM yn acronym ar gyfer Scarborough Tourism Economic Assessment Model, sef model a ddefnyddir gan 21 o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, sy’n cael data ymwelwyr blynyddol gan letyau ac atyniadau lleol, ynghyd ag arolygon porth teithwyr cenedlaethol a wneir mewn meysydd awyr, gorsafoedd rheilffordd a chyfweliadau gydag ymwelwyr ledled Cymru.
**Mae cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Wrecsam yn gyfres o fodiwlau ar-lein, sy’n rhad ac am ddim, y gellir eu gwneud yn eich amser eich hun yma: https://www.ambassador.wales/cy/ambassador-courses/wrexham-ambassador-course/