Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen ddigwyddiadau ar draws Wrecsam yn cynnwys cnocwyr Nottingham
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > ddigwyddiadau ar draws Wrecsam yn cynnwys cnocwyr Nottingham
Y cyngorPobl a lle

ddigwyddiadau ar draws Wrecsam yn cynnwys cnocwyr Nottingham

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 9, 2024 10:09 am
Rhannu
Darllen 3 funud
ddigwyddiadau ar draws Wrecsam yn cynnwys cnocwyr Nottingham
RHANNU

Mae Safonau Masnach Wrecsam yn dymuno rhybuddio pobl yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau ar draws Wrecsam yn cynnwys cnocwyr Nottingham, a elwir hefyd yn ‘werthwyr cadachau’.

Bechgyn ifanc ydyn nhw fel arfer, yn dod at eich drws gyda bag mawr du yn llawn cynnyrch glanhau sy’n amrywio o dyweli te, cadachau llestri, cadachau, chwistrellwyr, polish, eitemau bychan o ddillad a hyd yn oed cyllyll. 

Fodd bynnag, nid yn unig y maen nhw’n ceisio gwerthu eitemau o ansawdd gwael i chi am brisiau chwyddedig iawn, ond maen nhw hefyd yn chwilio am dargedau hawdd ac yn gwerthu manylion i fyrgleriaid proffesiynol. Mae nifer o bobl sydd wedi prynu eitemau gan gnocwyr Nottingham wedi dioddef byrgleriaeth yn eu cartrefi yn fuan wedyn.

Yn wreiddiol o ardal Nottingham, byddai’r grŵp hwn yn dod i ‘gnocio’ ar ddrysau pobl i werthu, a dyna lle ddaw’r term cnocwyr Nottingham. 

Bu adroddiadau diweddar ohonynt ar draws ardal Wrecsam ac mewn rhai sefyllfaoedd maent wedi bod yn ymosodol, sydd wedi dychryn ac achosi gofid i berchnogion tai.  Mae Safonau Masnach yn eich cynghori i edrych drwy’r ffenestr gyntaf a pheidio agor y drws i unrhyw un nad ydych yn siŵr ohonynt. 

Byddan nhw’n cyfaddef eu bod nhw’n gyn-droseddwyr sy’n ceisio dechrau o’r newydd ac efallai’n dangos cerdyn o’u cynllun prawf, yn ôl y sôn. Nid oes gan y cardiau adnabod hyn unrhyw draul gyfreithiol.  Mae’r dynion ifanc yn delio gydag arian parod ar garreg drws. Os byddwch chi’n prynu ganddyn nhw unwaith byddant yn dychwelyd eto i geisio gwerthu mwy i chi.

Mewn ardaloedd eraill, maent hyd yn oed wedi bod yn dreisiol ac wedi gorfodi eu ffordd i mewn i gartrefi pobl i gael mwy o arian parod. Ni adroddwyd ar hyn yn ardal Wrecsam hyd yma, ond mae’r dynion wedi bod yn ymosodol. Eto, cofiwch fod y gwerthwyr hyn yn droseddwyr proffesiynol a’r ffordd orau i gadw’n ddiogel yw peidio ymwneud â nhw.

Os bydd cnocwyr Nottingham yn ymweld â chi, rhowch wybod i Heddlu Gogledd Cymru gynted ag y gallwch drwy ffonio 101 i roi’r cyfle gorau i’r heddlu ddod i’ch ardal a dal yr unigolion.   Ceisiwch gofnodi unrhyw fanylion, gan gynnwys rhif cofrestru cerbyd.

Fodd bynnag, os byddant yn eich bygwth neu’n eich trin yn ymosodol ar garreg y drws, deialwch 999 ar gyfer ymateb i argyfwng.

Os byddwch yn bryderus bod cnocwyr Nottingham wedi cysylltu â chi gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau i’r Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1133.

Rhannu
Erthygl flaenorol Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Wrecsam Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Wrecsam
Erthygl nesaf Ydych chi wedi edrych ar ein swyddi diweddaraf? Edrychwch ar y rhain… Ydych chi wedi edrych ar ein swyddi diweddaraf? Edrychwch ar y rhain…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English