Chododd pryder ymhlith y cyhoedd dros y gwasanaethau bws a gollwyd yn sgil D Jones & Son ddod i ben dros y penwythnos.
Gweithiodd swyddogion Cyngor Wrecsam yn galled i sicrhau darpariaeth dros-dro, ac ar ol trafodaeth ymhellach gyda darparwyr, rydym yn falch i ddatgan gwnaethpwyd cynnydd cyflym i sicrhau gwasanaethau newydd.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Y gwasanaethau sydd wedi eu diogelu, a’u ddarparwyr, yw:
- 35 – Plas Goulbourne – Arriva
- 41 – Ystad Diwydiannol Wrecsam – Arriva
- C56 – Caer (Trwy Holt) – Stagecoach
- 146 – Yr Eglwys Wen – Pat’s Coaches
Bydd y gwasanaethau newydd yn seiliedig ar gymeradwyaeth y Comisiynydd Traffig, ond mae Cyngor Wrecsam yn hyderus bydd y gwasanaethau yn ôl ar y ffordd mor fuan ag sy’n bosib.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol am yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae’n bleser i mi allu ddweud sicrhawyd swyddogion y gwasanaethau hyn trwy weithio gyda darparwyr, oherwydd chodwyd dipyn o bryder wrth i D Jones & Son ddarfod masnachu”.
“Er bod dal angen cymeradwyaeth y Comisiynydd Traffig, mae’r comisiynydd wedi nodi bydd y gwasanaethau newydd yn cael eu trin ar frys, a rydym ni yn cefnogi hyn.
“Rydym yn gydnabyddus bod llwybrai eraill eto i’w sicrhau, ond mi fydd swyddogion yn parhau i weithio’n galed i’w hadfer mor fuan ag sy’n bosib.”
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU