Mae FOCUS Wales yn cyrraedd Wrecsam ddydd Iau!
Mae’r ŵyl tri diwrnod yn cael ei chynnal mewn sawl lleoliad o amgylch Wrecsam, gyda pherfformiadau gan 200 a mwy o fandiau ac amserlen lawn o sesiynau’r diwydiant rhyngweithiol, comedi, digwyddiadau celfyddydol a ffilmiau.
Mae lleoliad newydd sbon hefyd yn cael ei ddefnyddio yn rhan o’r ŵyl eleni – ein Tŷ Pawb ni!
Bydd canolfan Gymunedau, Celfyddydau a Marchnadoedd newydd Wrecsam yn frith o weithgarwch dros dridiau’r ŵyl.
Artistiaid o bob cwr o’r byd
Gyda thri llwyfan, Tŷ Pawb fydd y lle i weld perfformiadau byw gan artistiaid o wledydd o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Hwngari, Canada a Chorea – yn ogystal â rhai’n nes at adref!
Bydd FOCUS Wales hefyd yn cynnal nifer o gynadleddau rhyngweithiol yn Oriel a mannau perfformio Tŷ Pawb. Bydd y rhain yn cynnwys sesiynau cyngor i artistiaid sy’n datblygu, sesiynau rhwydweithio a thrafodaethau panel gyda rhai proffesiynol o’r diwydiant.
Bydd y marchnadoedd, yr ardal fwyd a’r orielau ar agor fel arfer drwy gydol yr ŵyl felly gallwch brofi pob dim arall sydd gan Dŷ Pawb i’w gynnig yn ogystal â gwrando ar ychydig o gerddoriaeth fyw wych!
Digon o weithgareddau!
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol:
“Mae FOCUS Wales wedi helpu i roi Wrecsam ar y map, gan ddenu miloedd o bobl i’r dref i gefnogi ein heconomi a’n busnesau lleol, yn ogystal ag arddangos ein sîn gerddoriaeth a chelfyddydau lewyrchus i’r byd.
“Gydag ein hamrywiaeth o farchnadoedd, yr ardal fwyd a’r orielau, bydd Tŷ Pawb yn lle gwych i fynd i fwynhau FOCUS Wales ac rydyn ni’n falch o fod yn cydweithio mor agos gyda’r ŵyl eleni. Bydd miloedd o ymwelwyr ar draws y byd yn dod drwy’r drysau a gobeithio y bydd pob un wedi’u plesio gan yr hyn fyddan nhw’n ei weld.”
Bydd FOCUS Wales yn cael ei gynnal ar 10, 11 a 12 Mai mewn sawl lleoliad yma yn Wrecsam.
I weld yr amserlen lawn ar gyfer FOCUS Wales ac i brynu tocynnau, ewch i’r wefan swyddogol – www.focuswales.com
Caiff FOCUS Wales ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Wrecsam.
Sylwch – bydd ein holl weithgareddau Dydd Iau Pawb wythnosol, gan gynnwys Mini-Movers, Dawns i Blant, Sied y Dynion a’r Dosbarth Darlunio Bywyd, yn dychwelyd fel arfer yr wythnos ganlynol – 17 Mai.
Bydd clwb celf dydd Sadwrn yn dychwelyd ar 19 Mai.
COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR