Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ailgylchu – dewch i nôl bagiau bin bwyd a sachau glas o dros 40 lleoliad yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ailgylchu – dewch i nôl bagiau bin bwyd a sachau glas o dros 40 lleoliad yn Wrecsam
Y cyngor

Ailgylchu – dewch i nôl bagiau bin bwyd a sachau glas o dros 40 lleoliad yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 19, 2021 11:26 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Fre
RHANNU

Wyddoch chi fod modd cael eich bagiau bin bwyd a sachau glas newydd am ddim o amryw leoliadau yn Wrecsam, gan gynnwys nifer o siopau cyfleus, swyddfeydd ystadau, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu?

Cynnwys
  • O le allai gasglu’r bagiau a’r sachau?
    • Ffyrdd eraill o gael gafael ar fagiau bin bwyd a sachau glas
  • Archebu bocsys ailgylchu newydd

Mae’r bagiau bin bwyd (ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd) a sachau (ar gyfer ailgylchu cardfwrdd a phapur) ar gael am ddim o dros 40 lleoliad ar draws y fwrdeistref sirol, wrth i ni geisio ei gwneud hi’n haws i breswylwyr ailgylchu yn Wrecsam.

Felly gallwch alw i mewn i un o’r lleoliadau yn lleol i chi a chasglu’r eitemau am ddim pan fyddwch eu hangen.

RHESTR LAWN O’R LLEOLIADAU Y GALLWCH GAEL BAGIAU BIN BWYD A SACHAU GLAS AM DDIM

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym bob tro yn ceisio gwrando ar ein preswylwyr a dyna’r rheswm dros ddarparu’r bagiau bin bwyd a’r sachau mewn llawer o leoliadau gwahanol ar draws Wrecsam.

“Os ydach chi angen sach las newydd neu wedi rhedeg allan o fagiau bin bwyd mae posib eu casglu nhw o’r siopau cyfleus, swyddfeydd neu ganolfannau sy’n eu cadw nhw ar ein rhan. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ddefnyddiol i bobl sy’n ailgylchu yn barod, ac rydym yn gobeithio ei fod yn annog y preswylwyr hynny sydd ddim yn ailgylchu i gymryd rhan.”

O le allai gasglu’r bagiau a’r sachau?

Gallwch glicio yma i weld y rhestr lawn o leoliadau sy’n cadw’r bagiau bin bwyd a’r sachau glas am ddim.

Rydym yn parhau i ychwanegu mwy o leoliadau ar ein rhestr gynhwysfawr felly os welwch chi un o’n posteri mewn lleoliad yn eich hymyl chi gallwch eu casglu oddi yno hefyd.

Ailgylchu – dewch i nôl bagiau bin bwyd a sachau glas o dros 40 lleoliad yn Wrecsam

Ffyrdd eraill o gael gafael ar fagiau bin bwyd a sachau glas

Peidiwch ag anghofio y gallwch barhau i gael eich bagiau bin bwyd am ddim drwy glymu bag bin bwyd gwag i handlen eich bin bwyd ar ddiwrnod casglu a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi.

Caddy food waste recycling liner

Mae’r criwiau ailgylchu yn cario sachau glas ar eu cerbydau hefyd rhag ofn bod rhywun angen un, felly gallwch ofyn i un o’r tîm am sach newydd y tro nesaf y byddan nhw’n casglu o’ch stryd.

Archebu bocsys ailgylchu newydd

Os bydd unrhyw un o’ch bocsys ailgylchu yn cael eu difrodi neu’n mynd ar goll, gallwch archebu rhai newydd am ddim yma. Os felly, byddwn yn eu dosbarthu i chi gynted ag y gallwn.

I gael mwy o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/ailgylchu

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Prynwch deganau yn ddiogel y Nadolig hwn Prynwch deganau yn ddiogel y Nadolig hwn
Erthygl nesaf Light up Wrexham Ydych chi’n bwriadu gwneud ychydig o siopa Nadolig ar-lein eleni? Os felly, darllenwch hwn…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English