Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dewisiadau tai ar gyfer pobl hŷn – Cewch atebion i’ch cwestiynau yn y digwyddiad yma
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dewisiadau tai ar gyfer pobl hŷn – Cewch atebion i’ch cwestiynau yn y digwyddiad yma
Pobl a lleY cyngor

Dewisiadau tai ar gyfer pobl hŷn – Cewch atebion i’ch cwestiynau yn y digwyddiad yma

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 13, 2017 3:44 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Dewisiadau tai ar gyfer pobl hŷn - Cewch atebion i'ch cwestiynau yn y digwyddiad yma
RHANNU

Wrth i ni fynd yn hyn mae’n bwysig iawn i wneud yn siŵr bod gennych rywle diogel, cyfforddus ac yn fforddiadwy i fyw.

Mae sawl math o lety a gwasanaethau cymorth ar gael i bobl. Ond, boed hynny ar gyfer eich hunain neu ar gyfer ein anwyliaid, dydi ddod o hyd i’r cartref iawn ddim bob amser yn hawdd.

I help chi mae digwyddiad galw i heibio i gael gwybodaeth ar y dewisiadau tai sydd ar gael i bobl hŷn yn cael ei gynnal yn Wrecsam.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Fe fydd y sefydliadau a gwasanaethau amrywiol a fydd yn bresennol, yn cynnwys:

  • Tai Gofal Ychwanegol – Gan gynnwys y cynllun newydd ym Maes y Dderwen, Ffordd Grosvenor, Wrecsam sy’n cael ei ddatblygu gan Gymdeithas Tai Pennaf.
  • Tai Gwarchod – Cynlluniau tai Cyngor Wrecsam sydd wedi’u lleoli ledled y Fwrdeistref Sirol.
  • Teleofal – Gwasanaeth larwm/monitro cartref 24/7.
  • Asiantwyr Cymunedol – Gwasanaeth cyngor a gwybodaeth gyfrinachol sydd am ddim, wedi’i ddylunio i wella ansawdd bywyd ar gyfer pobl hŷn
  • Wrexham Include – Gwasanaeth cefnogi i bobl 55+ oed sy’n byw yn Wrecsam  

Fe fydd yna gyfle i chi ofyn cwestiynau a bydd lluniaeth ar gael.

Dywedodd Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths, “Fe fydd hwn yn gyfle gwych i ddysgu pa ddewisiadau tai sydd ar gael i bobl wrth iddynt heneiddio. Mae yna nifer o wasanaethau defnyddiol iawn sy’n cael eu darparu gan y Cyngor a sefydliadau eraill a fydd yn bresennol, felly buaswn yn annog unrhyw un sy’n ystyried treulio eu hymddeoliad yn ardal Wrecsam i ddod draw i weld beth sydd ar gael.”

Dywedodd Aelod Arweiniol Pobl – Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, y Cynghorydd Joan Lowe: “Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r holl ddewisiadau tai a gwasanaethau sydd ar gael wrth iddynt heneiddio. Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu am y gwasanaethau hyn – ac mae’r cyfan dan un to. Dwi wrth fy modd bod cymaint o sefydliadau wedi cadarnhau y byddant yn bresennol a dwi’n gobeithio y bydd cynifer o bobl ag sy’n bosibl yn gallu dod draw ar y diwrnod.”

10am-1pm, dydd Mercher 19 Gorffennaf yn Neuadd Goffa, Bodhyfryd, Wrecsam, LL12 7AG

Cysylltwch â 01978 298993 i gael rhagor o wybodaeth.

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Edrychwch ar y canllaw defnyddiol am ddim hwn i gael gweld gweithgareddau dros wyliau’r haf Edrychwch ar y canllaw defnyddiol am ddim hwn i gael gweld gweithgareddau dros wyliau’r haf
Erthygl nesaf Maes parcio ar fin cau – mwy o wybodaeth yma: Maes parcio ar fin cau – mwy o wybodaeth yma:

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English