Hoffem atgoffa preswylwyr i ddidoli eu ddeunyddiau gwastraff amrywiol cyn ymweld â’r canolfannau ailgylchu i osgoi rhoi eitem yn y baeau anghywir.
Yn ddiweddar rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn deunyddiau ailgylchadwy yn cael eu gwaredu yn anghywir yn y sgip gwastraff cyffredinol yn y safleoedd, sydd yn effeithio ar ein cyfradd ailgylchu.
Byddwn yn herio unrhyw un sydd yn rhoi deunyddiau yn y baeau anghywir, a gellir gwrthod mynediad i unrhyw un sydd yn fwriadol ddim yn ailgylchu.
Dywedodd Y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Yn anffodus, rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn deunyddiau ailgylchadwy yn cael eu gwaredu yn y sgip gwastraff cyffredinol, sydd yn dylanwadu ar ein cyfradd ailgylchu yn Wrecsam.
“Gyda mesurau Covid-19 yn eu lle, mae’n anoddach i ni symud unrhyw ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu sydd wedi eu rhoi yn y sgip anghywir, felly gofynnwn yn garedig i chi ddidoli eich deunyddiau amrywiol cyn eich ymweliad. Rydym yn barod i wrthod unrhyw un sydd yn fwriadol ddim yn ailgylchu yn y safleoedd, felly i osgoi sgwrs a all fod yn lletchwith, rhowch eich deunyddiau yn y baeau cywir.”
Mae bagiau du yn achosi problem
Mae’n bwysig iawn nad yw unrhyw fagiau du sy’n cynnwys deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn cael eu rhoi yn y sgip gwastraff cyffredinol.
Oherwydd mesurau diogelwch, ni all ein gweithwyr agor y bagiau i weld os oes deunyddiau ailgylchadwy ynddynt, felly rydyn ni angen i chi sicrhau nad yw’r bagiau yn cynnwys unrhyw beth a all gael ei ailgylchu.
Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell: “Gofynnwn yn garedig i chi beidio, o dan unrhyw amgylchiadau, a dod â bagiau sbwriel, sy’n cynnwys deunyddiau ailgylchadwy, i’r canolfannau ailgylchu. Os byddwch yn mynd â bagiau du i’r canolfannau ailgylchu, sicrhewch fod unrhyw boteli, caniau ayyb, sydd wedi eu rhoi yn y bagiau mewn camgymeriad, wedi eu tynnu allan a’u rhoi yn eich ailgylchu ymyl palmant neu yn y banciau ailgylchu priodol yn y canolfannau ailgylchu. Rydyn ni yn gwneud ein gorau i gadw pawb yn ddiogel, ond rydyn ni angen i chi chwarae rhan yn hyn hefyd. Diolch.”
Cyflymu eich ymweliad
I fod yn glir os ydych yn cyrraedd a’ch deunyddiau heb eu didoli, byddwch yn y safle am gyfnod hirach ac yn arafu eich ymweliad.
Os ydych chi wedi didoli eich deunyddiau ymlaen llaw, byddant yn barod i’w rhoi yn y baeau cywir yn syth. Mae’n broses llawer mwy llyfn pan mae pawb yn gwneud hyn.
Y rheolau’n llawn
I’ch atgoffa, dyma restr lawn o’r rheolau sydd ar waith yn y canolfannau ailgylchu:
• Peidiwch â mynd i’r safleoedd os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd symptomau o Covid-19, neu os ydych chi’n cael eich gwarchod am fod gennych gyflwr iechyd presennol.
• Dewch â gwastraff yr aelwyd yn unig gyda chi. Peidiwch â dod â gwastraff masnachol na gwastraff busnes gyda chi.
• Dewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno). Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel.
• Byddwch yn amyneddgar os bydd rhaid i chi aros mewn ciw. Ni chaniateir mwy na phump cerbyd ar y safle ar un adeg.
• Sicrhewch mai dim ond un person sydd yn dod allan o’r cerbyd er mwyn dadlwytho, a’u bod yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Nodwch os gwelwch yn dda, dylai plant aros yn y car drwy’r amser, ni chaniateir anifeiliaid anwes ar y safle.
• Peidiwch â dod ag eitemau sydd yn rhy fawr neu’n rhy drwm i chi eu cario eich hun. Ni fydd ein gweithwyr yn cael eich helpu i ddadlwytho eich car, na chael gwared ar eich gwastraff.
• Sortiwch eich gwastraff cyn i chi gyrraedd (er mwyn i chi fod yn gyflym).
• Byddwch yn gwrtais. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad ymosodol tuag at ein staff. Bydd swyddogion yn gwisgo camerâu corff, felly byddant yn rhoi gwybod am unrhyw achos i’r heddlu.
• Peidiwch â chyffwrdd eich wyneb ar y safle, a dewch â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os allwch chi (glanhewch eich dwylo gyda’r hylif cyn i chi yrru nôl am adref).
Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2021/22 o heddiw ymlaen
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN