Erthygl gwadd gan Cyflymu Cymru i Fusnesau ac Busnes Cymru
Os ydych yn berchennog busnes yn Wrecsam, mae digwyddiad am rad ac am ddim ar 31 Ionawr 2019, 9am – 12pm, yn Hwb Menter Wrecsam, Wrexham, LL11 1AT.
Ydy’ch gwefan chi’n ymgysylltu’n llwyddiannus â defnyddwyr ar draws y byd?
Mae gwefan yn arddangos eich busnes ar lwyfan y byd. Mae gan nifer o fusnesau gyfeiriad strategol, a’r wefan yn rhan bwysig o’r strategaeth hwnnw. Serch hynny, i nifer, mae gwerthiant rhyngwladol yn fwy adweithiol – ac efallai y bydd ymholiadau’n cael eu gwrthod oherwydd nad yw’r cwmni wedi’i baratoi’n ddigonol ar gyfer masnachu’n rhyngwladol.
Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar y pethau ymarferol sydd angen eu hystyried i sicrhau bod eich gwefan yn addas ar gyfer dibenion allforio gan gynnwys…
• SEO marchnad ryngwladol (cael y gorau o gynnwys eich gwefan)
• CRM a rheoli data
• Ymgysylltu a chyrraedd eich cwsmeriaid tramor
• Iaith, diwylliant a nodweddion unigryw cryf
• Ymarferoldeb termau ac amodau rhyngwladol a chyflenwi archebion
• Prisio, Talu a Gwaith Papur
ARCHEBWCH NAWR