Am y tro cyntaf eleni, bydd gŵyl lenyddol Carnifal Geiriau Wrecsam yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau arbennig yn ystod amser cinio, felly beth am gymryd hoe fach ac ymuno â nhw am egwyl llenyddol amser cinio!
Mae’r rhestr o berfformwyr yn cynnwys Gail Young, a fydd yn rhoi blas o’r ysbrydoliaeth ar gyfer ei chynyrchiadau llwyfan llwyddiannus ddydd Llun 29 Ebrill. Dydd Mawrth 30 Ebrill bydd Alison Layland ar y llwyfan yn sgwrsio gyda Caroline Oakley, golygydd yng ngwasg Honno am ei llyfrau ‘Someone Else’s Conflict’ a ‘Rainbow’. Bydd Debbie Young yn ymuno â’r ŵyl ddydd Iau, 2 Mai i siarad am bleserau ysgrifennu ‘straeon dirgel clyd’ a rôl hiwmor wrth ysgrifennu straeon trosedd.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB
Yn olaf ddydd Llun, 3 Mai bydd dwy sioe ar themâu lleol; y cyntaf fydd Martine Bailey awdur An Appetite for Violets, a ysbrydolwyd gan Erddig a bydd hefyd yn dadorchuddio ei nofel ddirgel hanesyddol newydd, The Almanack.
I ddilyn am 2.30pm bydd yr awdur lleol, David Ebsworth yn trafod cefndir ei nofel ddiweddaraf, ‘The Doubtful Diaries of Wicked Mistress Yale’, gan adrodd hanes y gwir Elihu Yale drwy lygaid ei wraig Catherine a oedd yn destun llawer o enllib ac sydd bron â chael ei hanghofio’n llwyr.
Mae pob digwyddiad (heblaw am ddigwyddiad David Ebsworth) yn dechrau am 1pm yn Llyfrgell Wrecsam. Mae tocynnau ar gael o Lyfrgell Wrecsam neu ar-lein ar www.wrexham.gov.uk/pay. I gael y rhaglen lawn, ewch i https://wrexhamcarnivalofwords.com/
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB