Os ydych yn ddinesydd un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yma yn Wrecsam ac yn gymwys i bleidleisio gallwch gymryd rhan yn yr Etholiadau Ewropeaidd y disgwylir iddynt ddigwydd ar 23 Mai.
Gallwch naill ai bleidleisio yn eich mamwlad neu yma yn Wrecsam, ond allwch chi ddim gwneud y ddau.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB
Os ydych eisiau pleidleisio yn eich mamwlad dylech gysylltu â’r awdurdodau etholiadol yno.
Os ydych eisiau pleidleisio yn ardal Wrecsam mae’n rhaid i chi gofrestru i wneud hynny erbyn 7 Mai a llenwi’r Ffurflen Gofrestru Pleidleisiwr Senedd Ewrop. Dylid wedyn anfon y ffurflen at y Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY neu ei anfon drwy e-bost at electoral@wrexham.gov,uk i gyrraedd erbyn 7 Mai.
Gallwch gofrestru i bleidleisio yma
Gallwch lawrlwytho’r ffurflen yma
Ar ôl i chi gofrestru byddwch yn cael cerdyn pleidleisio a manylion am le i fynd i bleidleisio.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB ]