Mae gweithredu Tai Amlfeddiannaeth didrwydded wedi arwain at ddau erlyniad llwyddiannus gan ein Tîm Gwarchod y Cyhoedd a chafodd y landlordiaid ddirwyon.
Plediodd Christopher Tye a Darren Evans (cyd berchnogion eiddo yn Ffordd Ddyfrllyd) yn euog a chawsant ryddhad amodol o 12 mis, costau o £300 a £22 o ordal yr un.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Roedd Ronald Stapleton yn berchen ar eiddo yn Ffordd Rhuthun a chafodd ei gyhuddo o dorri rheoliadau rheoli Tai Amlfeddiannaeth a thorri gorchymyn gwahardd brys.
Cafodd ddirwy o £750 am dorri gorchymyn gwahardd brys, £500 am weithredu Cartref Amlfeddiannaeth didrwydded, gordal o £175 a chostau o £750. Cyfanswm o £2,675.
Mae’r rhan fwyaf o landlordiaid ac asiantaethau gosod tai yn sicrhau bod Tai Amlfeddiannaeth yn cael eu trwyddedu a’u cynnal yn briodol, ond os bydd eich landlord neu asiantaeth gosod tai yn methu cael trwydded HMO neu gynnal yr atgyweiriadau angenrheidiol a gwneud trefniadau diogelwch tân digonol, gallwch gysylltu â’r tîm Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Tai drwy e-bost yn HealthandHousing@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio 01978 292040.
Rydym yn cadw rhestr o Dai Amlfeddiannaeth a drwyddedir ar hyn o bryd ar ein gwefan, a hefyd yn darparu gwybodaeth ar beth yw HMO a sut y gallant gael eu trwyddedu.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL