Mae disgyblion mewn tair ysgol gynradd cyfrwng Saesneg wedi eu llongyfarch am eu hymdrechion i siarad Cymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Mae timau o ddisgyblion o Ysgol Heulfan, Ysgol Rhostyllen ac Ysgol Penygelli wedi ennill Gwobr Efydd am Cymraeg Campus – ymdrech i gael plant a staff mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg i ddefnyddio’r Gymraeg, a hyrwyddo ethos cryf o siarad Cymraeg.
Ffurfiodd pob un o’r timau eu “Criw Cymraeg” eu hunain – i annog eu cyd-ddisgyblion i siarad Cymraeg yn ystod eu bywydau bod dydd yn yr ysgol.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Nhw yw’r tri cyntaf i dderbyn y wobr eleni, a bydd enwau rhagor o ysgolion yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
Aethant ati i drefnu gwasanaethau boreol yn y Gymraeg, gosod posteri ledled eu hysgolion yn arddangos brawddegau Cymraeg defnyddiol, a herio staff a disgyblion fel ei gilydd i ddefnyddio’r Gymraeg.
Ysgol Penygelli
Mae’r Criw Cymraeg yn Ysgol Penygelli, Coedpoeth yn cynnwys deg o blant o Flynyddoedd 3 i 6, ac maent wedi bod yn gweithio’n galed ers dros flwyddyn.
Yn ogystal â threfnu arddangosiadau a gwasanaethau wythnosol sy’n cael eu cynnal yn Gymraeg, aeth y disgyblion ati i ddylunio eu logo eu hunain – ers hynny, mae’r logo wedi cael lle blaenllaw ar grysau-t swyddogol y Criw Cymraeg (gweler y llun isod).
Mae’r Criw hefyd yn cyflwyno tystysgrifau Siaradwr Cymraeg yr Wythnos i gyd-ddisgyblion am eu defnydd o’r Gymraeg, ac yn cymryd rhan mewn clybiau ar ôl ysgol i annog disgyblion eraill i ddefnyddio Cymraeg achlysurol – gyda’r nod o wneud iddynt ddefnyddio’r iaith yn ystod amser egwyl ac amser cinio.
Maent hefyd wedi dylunio llyfryn i’w ddosbarthu i rieni plant newydd oed Meithrin a fydd yn dechrau yn yr ysgol ym mis Medi; cynllunio pnawn o weithgareddau yn y Gymraeg yn annog plant i ddysgu mwy am ddiwylliant Cymreig; cyflwyno brawddegau Cymraeg achlysurol mewn gwasanaeth i’r ysgol gyfan, a llawer mwy.
Ysgol Heulfan
Mae gan y Criw Cymraeg yn Ysgol Heulfan, Gwersyllt, grŵp o 14 disgybl, a rhyngddynt maent yn cynrychioli pob dosbarth yn yr ysgol.
Mi wnaethon nhw helpu i gynllunio Eisteddfod ysgol ddiweddar, ynghyd â chynlluniau i hyrwyddo’r Gymraeg o amgylch yr ysgol yn fwy rheolaidd – gan gynnwys cynnal gwasanaethau Cymraeg wythnosol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i weddill yr ysgol ar eu nodau newydd. Maent hefyd yn herio staff a disgyblion i ddefnyddio gwahanol frawddeg Gymraeg bob wythnos drwy eu cynllun “Brawddeg Gymraeg”.
Dywedodd Kerry Woodcock a Steph Barnes, arweinwyr Cymraeg Campus yn Ysgol Heulfan: “Maen nhw’n griw brwd iawn, rydym yn ffodus iawn i gael Criw mor frwd gan fod hyn yn gwneud ein gwaith yn haws.”
Dyma rai o sylwadau gan ddisgyblion ar waith y Criw Cymraeg:
- “Mae’r ‘Frawddeg Gymraeg’ wedi cynyddu’r Gymraeg rwy’n ei chlywed, yn arbennig gan ferched y gegin.”
- “Rydym wrth ein boddau’n chwarae gemau Cymraeg – rydan ni’n mynd yn fwy cystadleuol.”
- “Arwain drwy ddangos esiampl! Rydach chi’n defnyddio’r brawddegau ac yna bydd eich ffrindiau’n gwneud hefyd.”
- “Annog pobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg neu’r Frawddeg Gymraeg bob amser.”
Ysgol Rhostyllen
Mae’r Criw Cymraeg yn Ysgol Rhostyllen wedi bod yn gweithio’n galed iawn i wneud Y Gymraeg yn cŵl, gyda gweithgareddau gan gynnwys gwrando ar gerddoriaeth gan fandiau Cymraeg fel Yws Gwynedd, Gwilym a Daniel Lloyd a Mr Pinc. Ymchwiliodd y tîm i bob band a gwrando arnynt wrth weithio.
Sefydlodd y Criw hefyd wasanaethau Cymraeg bob dydd Llun i sgwrsio â disgyblion eraill am bob un o’r bandiau – ac maen nhw wedi derbyn negeseuon gan y bandiau a’r perfformwyr dan sylw, yn eu llongyfarch am eu holl waith caled a’u hannog i ddal ati!
Dywedodd yr athrawes Beth Williams: “Mae Cymraeg Campus wedi gwedd-newid y ffordd rydym yn dysgu Cymraeg ac o’r diwedd wedi llwyddo i ddarbwyllo ein disgyblion fod y Gymraeg yn cŵl! Mae cynlluniau mawr gennym ar y gweill.”
Gall pob ysgol geisio sicrhau gwobrau efydd, arian ac aur. Er mwyn cwblhau’r gwobrau hyn, mae disgwyl i ysgolion gwblhau targedau heriol ond cyraeddadwy a fydd yn hyrwyddo ethos Cymreig a defnydd o’r Gymraeg yn eu hysgolion.
“Llongyfarchiadau i bawb sy’n gysylltiedig”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Llongyfarchiadau i bawb sy’n gysylltiedig am eu hymdrechion a’u gwaith caled gyda Cymraeg Campus – roedd y Wobr Efydd yn haeddiannol iawn, a diolch i’w hymroddiad, rwy’n siŵr y bydd yr ysgolion sy’n gysylltiedig yn sicr ar eu ffordd i ennill ar y lefelau nesaf yn y dyfodol agos.
“Mae Cymraeg Campus yn elfen ganolog o’n Cynllun Strategol Addysg Gymraeg (WESP), gan ei fod yn sicrhau nad dim ond yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg rydym yn hyrwyddo ymdrechion i siarad yr iaith, ond hefyd ym mhob ysgol, ar bob lefel.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION