Ydych chi erioed wedi ystyried gyrfa yn y Fyddin, ond ddim yn siŵr lle i ddechrau?
Efallai y bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i chi.
Bydd y Fyddin yn cynnal diwrnod recriwtio ar Lwyn Isaf o 9am tan 4pm ddydd Sadwrn, 8 Mehefin, lle bydd amrywiaeth o weithgareddau ar gael.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Bydd cyfle i’r cyhoedd roi cynnig ar y wal ddringo, rhedeg trwy gwrs rhwystrau a chymryd rhan mewn tasgau gorchymyn y Fyddin, ynghyd â gweithgareddau eraill.
Bydd y Cynghorydd Rob Walsh, Maer Wrecsam, hefyd yn bresennol.
Bydd staff Swyddfa Gyrfaoedd y Lluoedd Arfog hefyd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau am fywyd yn y Fyddin, ac i esbonio’r broses o wneud cais i ymuno.
Bydd swyddfa gyrfaoedd y Fyddin yn Wrecsam hefyd ar agor drwy gydol yr wythnos er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd ymweld a darganfod mwy am yrfaoedd yn y fyddin, a’r broses ymgeisio.
Dywedodd Phil Hill, Swyddog Recriwtio Arweiniol yn Wrecsam: “Mae gan Fyddin Prydain amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfaol ac, fel un o’r sefydliadau uchaf eu parch yn y byd, fe ewch chi’n bell yn eich gyrfa gyda’r Fyddin.
“Nid llawer o bobl sy’n gwybod bod y Fyddin yn darparu mwy o brentisiaethau nag unrhyw gyflogwr arall yn y DU ar hyn o bryd ac mae rolau ar gael i bobl sydd â dim cymwysterau addysgol ffurfiol yr holl ffordd i rolau sy’n gofyn am radd.
“Nid yn unig yr ydym yn hyrwyddo a chefnogi ein milwyr trwy gredydau dysgu gydol oes i gyflawni cymwysterau proffesiynol, rydym yn annog a galluogi datblygiad personol a chorfforol parhaus hefyd.
“Mae’r Fyddin yn recriwtio rŵan felly beth am ddod draw i gael gweld beth sy’n cael ei gynnig, efallai mai dyma’r union beth yr ydych wedi bod yn chwilio amdano.”
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Wrecsam: “Rydym yn hynod falch bod y Fyddin yn cynnal y digwyddiad hwn yng nghanol tref Wrecsam a byddem yn annog pawb sydd â diddordeb i ddod draw.
“Mae’n bosibl bod gan nifer o aelodau’r cyhoedd ddiddordeb mewn gyrfa yn y Fyddin, ond eu bod yn dymuno gwybod mwy am fywyd yn y Fyddin a beth sy’n ofynnol ar gyfer y broses ymgeisio.
“Rydym yn falch o’r cysylltiadau cryf sydd gennym â’r lluoedd arfog yma yn Wrecsam, felly rwy’n siŵr y bydd llawer o’r gymuned yn awyddus i fynychu’r digwyddiad hwn ddydd Sadwrn.”
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU