Yn ddiweddar cafodd rhai o ddisgyblion ysgol gynradd y cyfle i weld eu hanes lleol gyda’u llygaid eu hunain pan ddaeth arddangosfa deithiol Amgueddfa Wrecsam i ymweld â’u hysgol.
Daeth arddangosfa deithiol o Amgueddfa Wrecsam i ymweld â phlant o Ysgol Gynradd Wirfoddol Bronington a Gynorthwyir, i arddangos darnau arian o Gasgliad Bronington, o’r 15fed ganrif.
Mae’r daith yn rhan o brosiect Yn Gudd yn y Gororau Amgueddfa Wrecsam ac mae wedi ei hariannu gan brosiect Hel Trysor: Hel Straeon Cronfa Dreftadaeth y Loteri mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Mae’r darnau arian hyn yn dyddio’n ôl i’r 15fed Ganrif. Canfuwyd y darnau hyn, ynghyd â modrwy aur a saffir, gan ddarganfyddwyr metel, wedi’u claddu yn ardal Whitewall.
Mae’r darnau arian yn dyddio o deyrnasiad Edward I i Edward IV. Claddwyd y casgliad yn fwriadol tua’r flwyddyn 1465 – er nid ydym yn gwybod pwy gladdodd y casgliad na pham.
Mae’r ymweliad gan Amgueddfa Wrecsam yn dilyn misoedd o waith gan Ysgol Gynradd Wirfoddol Bronington a Gynorthwyir a fu’n cyflawni prosiectau ar y darnau arian ac yn ysgrifennu cerdd am y canfyddiadau yn gynharach yn ystod y flwyddyn academaidd.
“Hynod ddiolchgar i Amgueddfa Wrecsam”
Dywedodd Angela Birkinshaw, Pennaeth Ysgol Gynradd Wirfoddol Bronington a Gynorthwyir: “Roeddwn yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i gael y darnau arian i’r ysgol ac rwyf yn hynod ddiolchgar i Amgueddfa Wrecsam a phawb a fu’n rhan o’r prosiect am sicrhau bod y plant yn cael cyfle i weld y darnau arian gyda’u llygaid eu hunain.
“O ystyried bod yr ysgol yn agos iawn at fan lle canfuwyd y darnau arian yn wreiddiol, roedd yn bwysig iawn bod y disgyblion yn cael cyfle i ddysgu mwy am hanes yr ardal gyfagos, a hynny yn eu hysgol eu hunain.
Ychwanegodd Mrs Birkinshaw: “Rwyf hefyd yn falch bod cynrychiolwyr o Amgueddfa Wrecsam wedi bod wrth law i roi syniad i’r plant o arwyddocâd y casgliad.
“Roedd y plant wedi mwynhau’r diwrnod yn fawr iawn, yn ogystal â’r cyfle i weld y darnau arian a’u llygaid eu hunain – nid pawb sy’n cael cyfle i weld arteffactau o bwysigrwydd hanesyddol.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Braf yw gweld bod disgyblion Ysgol Gynradd Wirfoddol Bronington a Gynorthwyir wedi cael cyfle i weld y darganfyddiadau hanesyddol a phwysig hyn gyda’u llygaid eu hunain ac rwyf yn falch bod y plant wedi croesawu’r arddangosfa â brwdfrydedd.”
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU