Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch â cholli eich llais – sicrhewch fod eich manylion cofrestru i bleidleisio yn gyfredol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Peidiwch â cholli eich llais – sicrhewch fod eich manylion cofrestru i bleidleisio yn gyfredol
Y cyngor

Peidiwch â cholli eich llais – sicrhewch fod eich manylion cofrestru i bleidleisio yn gyfredol

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 19, 2021 1:11 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Peidiwch â cholli eich llais - sicrhewch fod eich manylion cofrestru i bleidleisio yn gyfredol
RHANNU

Mae pawb sy’n byw yn Wrecsam yn cael eu hannog i beidio â cholli eu llais ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt trwy sicrhau fod eu manylion cofrestru etholiadol yn gyfredol.

Gydag etholiadau llywodraeth leol yn cael eu cynnal fis Mai nesaf mae hwn yn gyfle pwysig i breswylwyr sicrhau y gallant gymryd rhan.

Mae’r canfasiad blynyddol yn sicrhau y gallwn ddiweddaru’r gofrestr etholwyr, gan adnabod preswylwyr nad ydynt wedi eu cofrestru i bleidleisio er mwyn eu hannog i wneud hynny.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Gyda rhai 16-17 oed a phob gwladolion tramor sy’n byw yn gyfreithiol yng Nghymru yn awr yn gallu pleidleisio mewn etholiadau lleol yng Nghymru, bydd hyn yn gyfle pwysig i sicrhau bod y pleidleiswyr newydd yn gallu cael eu cynnwys ar y gofrestr etholwyr cyn etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Ian Bancroft, y Swyddog Cofrestru Etholiadol yma yn Wrecsam, “Mae angen i breswylwyr edrych am ffurflen neu lythyr gan y cyngor, er mwyn i ni sicrhau bod gennym y manylion cywir ar y Gofrestr Etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn Wrecsam.

“Efallai nad oeddech yn gallu pleidleisio cyn ymestyn yr hawliau pleidleisio y llynedd, ond efallai y byddwch yn gallu erbyn hyn – ond dim ond os ydych wedi cofrestru.

“Felly os nad ydych wedi cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos ar y ffurflen neu lythyr a anfonwyd gennym.

Os ydych eisiau cofrestru, y ffordd hawddaf yw ar-lein, neu byddwn yn anfon gwybodaeth atoch yn egluro sut i wneud hyn yn y post.”

“Wrth i ni wneud y gwaith pwysig hwn i ddiweddaru’r gofrestr etholwyr rydym yn parhau i ddilyn canllawiau iechyd y cyhoedd, gan gynnwys parchu cadw pellter cymdeithasol”.

Mae pobl sydd wedi symud yn ddiweddar yn cael eu hannog i edrych am ohebiaeth canfasio a chadarnhau eu manylion. Yn ôl gwaith ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol, a gyhoeddwyd yn 2019, mae unigolion sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar, yn llawer llai tebygol o fod wedi cofrestru na’r unigolion hynny sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad am gyfnod hir.

Ar draws Prydain, bydd 92% o bobl sydd wedi bod yn byw yn eu heiddo ers dros 16 mlynedd wedi eu cofrestru, o’i gymharu â 36% o bobl sydd wedi byw mewn cyfeiriad ers llai na blwyddyn.

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru, “Nid oes ots ble cawsoch eich geni. Os ydych yn 16 oed neu hŷn rydych yn cael pleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru ond dim ond os ydych wedi cofrestru i bleidleisio gyntaf.

“Darllen y negeseuon a gewch gan eich awdurdod lleol yw’r ffordd hawddaf o weld os ydych wedi cofrestru i bleidleisio. Os nad ydych, sicrhewch eich bod yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol i’r awdurdod lleol pan fo’i angen a chofrestru i bleidleisio ar-lein.”

Mae gwybodaeth ar gofrestru i bleidleisio ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Gall unrhyw breswylydd sydd ag unrhyw gwestiynau gysylltu â’u tîm cofrestru lleol ar 01978 292020

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol newidiadau i gyfyngiadau Y Prif Weinidog yn cyhoeddi newidiadau i gyfyngiadau yng Nghymru
Erthygl nesaf Newbridge Y B5605 yn Newbridge – galw am arian ar frys i drwsio ffordd gyswllt hanfodol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English