Gallai drws tân sydd wedi ei osod, ei gynnal a’i gadw yn gywir olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.
Gyda hyn mewn golwg, rydym yn cefnogi Wythnos Diogelwch Drysau Tân unwaith eto, ac rydym yn galw ar landlordiaid ar draws y Fwrdeistref Sirol i sicrhau eu bod yn gwirio eu heiddo a bod tenantiaid yn eu defnyddio’n gywir.
Mae Medi 23-29 yn nodi’r wythnos pan amlygir drysau diogelwch tân i landlordiaid a thenantiaid.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Yn ystod yr wythnos hon byddwn yn:
- annog landlordiaid i gynnal asesiad risgiau tân ar eu heiddo gan ddefnyddio canllawiau a thempled sydd wedi ei ddarparu i ni gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
- gweithio i sicrhau fod landlordiaid a pherchnogion adeiladau fel ei gilydd yn sicrhau nad ydynt yn rhoi bywydau eu tenantiaid mewn perygl trwy fod â drysau tân sydd wedi eu gosod yn wael, nad ydynt yn cydymffurfio â deddfwriaeth, neu nad ydynt yn cael eu defnyddio’n gywir.
Os ydych yn landlord ac yn dymuno cynnal asesiad risg tân ar eich eiddo, gallwch lawrlwytho gwybodaeth ddefnyddiol yma:
Mae rhestr wirio 5 cam ar gyfer Drysau Diogelwch Tân hefyd ar gael. Dyma adnodd sydd yn hawdd i’w ddefnyddio ac y gellir ei ddefnyddio gan unrhyw un, boed mewn gweithle, cartref neu mewn unrhyw le lle ceir drysau diogelwch tân. 5 STEP CHECK.
#WythnosDiogelwchDrysauTân
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN