Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dychwelyd i fynyddoedd a bryniau Cymru – Erthygl gwestai gan “Heddlu Gogledd Cymru”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Dychwelyd i fynyddoedd a bryniau Cymru – Erthygl gwestai gan “Heddlu Gogledd Cymru”
ArallPobl a lle

Dychwelyd i fynyddoedd a bryniau Cymru – Erthygl gwestai gan “Heddlu Gogledd Cymru”

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 10, 2020 11:00 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Gogledd Cymru
RHANNU

Erthygl gwestai gan “Heddlu Gogledd Cymru”

Mae cerddwyr a dringwyr sy’n ystyried mentro allan i fynyddoedd a bryniau gogledd Cymru yn cael eu hannog i aros yn ddiogel.

Y penwythnos yma yw’r penwythnos cyntaf ers i’r neges ‘aros yn lleol’ a chyfyngiadau teithio godi yma yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y gall pobl nawr deithio i weld ffrindiau a theulu neu ymweld â llecynnau hardd am y tro cyntaf ers mis Mawrth.

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

Gyda’r rhagolygon tywydd yn addo tywydd braf a sych, mae Heddlu Gogledd Cymru, cydweithwyr Timau Achub Mynydd a Pharc Cenedlaethol Eryri yn erfyn ar unrhyw un sy’n bwriadu ymweld â’r ardal i wneud hynny mewn modd diogel a chyfrifol.

Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Gareth Evans, Arweinydd Achub a Chwilio ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Dros y misoedd diwethaf mae’r rhan fwyaf wedi gwrando drwy gadw draw o’r ardal, ac rydym yn ymwybodol fod nifer fawr yn edrych ymlaen at gael dychwelyd i’r ardal brydferth yma er mwyn mwynhau’r awyr agored.

“Fodd bynnag, os ydych yn bwriadu mentro allan i’r mynyddoedd, byddwch yn ddiogel, byddwch yn gyfrifol a sicrhewch fod gennych y dillad a’r offer cywir. Parciwch yn ofalus fel bod giatiau a thramwyfeydd yn glir ar gyfer cerbydau’r gwasanaethau brys. Gadewch giatiau ac eiddo fel y byddwch yn eu gweld nhw a gwnewch le pan fydd pobl yn cerdded tuag atoch ar y llwybrau. Cofiwch hefyd i gael gwared o’ch sbwriel mewn modd cyfrifol neu ewch ag o adref hefo chi.

“Mae’r coronafeirws yn fygythiad o hyd. Cofiwch mai gwirfoddolwyr sydd ar ein Timau Achub Mynydd, ac oherwydd Covid-19, mae’n bosib bydd llai ohonynt gan fod nifer yn weithwyr allweddol.

“Cofiwch y rheolau, mwynhewch y rhanbarth yn ddiogel a pharchwch gymunedau lleol.”

Meddai Chris Lloyd, Swyddog y Wasg Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru: “Fe hoffem ddiolch i bawb sydd wedi gwrando ar y negeseuon drwy beidio â mentro allan i’r mynyddoedd a’r bryniau yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.

“Ond os ydych yn bwriadu cymryd mantais o’r tywydd braf penwythnos yma a mentro allan i gerdded rydym yn erfyn arnoch i aros yn ddiogel a chyfrifol.

“Mi fydd gennym lai o aelodau o’r tîm ar gyfer cario ein hoffer. Mi fyddant hefyd yn gwisgo PPE gan gynnwys dillad sy’n dal dŵr (beth bynnag fydd y tywydd) ac mi fyddant hefyd yn gwisgo mygydau, menig a gwarchodwyr llygaid.

“Wrth gwrs tydi neb sy’n mynd i gerdded yn meddwl bydd angen cael eu hachub. Ond dim ots pa mor brofiadol ydych chi, mae’r rhan fwyaf o achosion achub yn deillio oherwydd baglu neu ddisgyn.

“Lleihewch y siawns o ofyn am gymorth drwy gymryd llai o risgiau, arhoswch ar lwybrau cyfarwydd, a sicrhewch fod gennych yr offer cywir. Ewch â dillad a bwyd sbâr gyda chi rhag ofyn bydd y timau achub yn cymryd mwy o amser i’ch cyrraedd. Sicrhewch fod gennych fatri llawn ar o leiaf un ffôn symudol yn eich grŵp. Ewch â mwgwd a hylif diheintio gyda chi er mwyn gwarchod pobl eraill.

“Peidiwch â bod yn rhy fentrus. Efallai nad ydych wedi cerdded y mynyddoedd ers peth amser a fydd eich lefel ffitrwydd ddim yr un peth.

“Cofiwch hefyd nad yw’r llwybrau wedi cael eu defnyddio felly mi fydd natur wedi ail-gydio ynddynt. Efallai bydd cerrig a llwybrau’n llithrig a fydd cerrig wedi dod yn rhydd.

“Os ydych angen cymorth meddyliwch sut allwch ofyn i eraill fydd o’ch cwmpas. Os ydych wirioneddol ar goll, yn sownd neu wedi anafu, ffoniwch 999. Gofynnwch am yr heddlu a thimau achub mynydd. Efallai bydd arweinydd y tîm yn gallu eich lleoli drwy signal eich ffôn symudol a’ch hebrwng i lawr yn ddiogel.

Dywedodd Owain Wyn, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Buasem yn annog ymwelwyr i ddilyn y cyngor gan ein Timau Achub Mynydd lleol a Heddlu Gogledd Cymru, a chofio fod y rheol o gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr yn parhau yng Nghymru.

“Os ydych yn bwriadu dringo’r Wyddfa, edrychwch ar ein diweddariadau meysydd parcio ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol cyn i chi adael adref. Bydd hyn yn rhoi arwydd i chi o ba mor brysur fydd hi. Cofiwch y bydd adeilad y copa ar gau eleni felly ni fydd toiledau, biniau, bwyd na dŵr. Felly paratowch cyn cychwyn ar eich taith.”

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol “Barod Amdani” wedi’i lansio ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch “Barod Amdani” wedi’i lansio ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch
Erthygl nesaf Morgan Thomas Dewch i gwrdd â Morgan Thomas – mae’n gweithio fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau i ni

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English