Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysgY cyngor

Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026

Diweddarwyd diwethaf: Awst 29, 2025 9:52 am
Rhannu
Darllen 6 funud
admissions
RHANNU

Gyda gwyliau’r haf y tu ôl i ni, mae tîm derbyn i ysgolion Wrecsam bellach yn agor eu porth ar-lein fel y gall rhieni wneud cais am le ysgol i’w plant. 

Cynnwys
  • Uwchradd
  • Dosbarth Derbyn
  • Addysg i rai 3 oed
    • Meithrin
    • Addysg gynnar wedi’i ariannu
  • Sut i wneud cais
  • Gwneud cais i sir wahanol

Os oes gennych blentyn a fydd yn cael eu 3ydd, 4ydd neu 11eg pen-blwydd rhwng 1 Medi 2025, a 31 Awst 2026, mae gennym ddyddiadau pwysig iawn ar gyfer eich dyddiadur.

Uwchradd

Os yw eich plentyn yn troi’n 11 oed y flwyddyn academaidd hon ac newydd symud i Flwyddyn 6, gallwch nawr wneud cais am le ysgol uwchradd iddynt ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Ceisiadau’n agor: 1 Medi 2025.  Dyddiad cau: 3 Tachwedd 2025

Bydd ein hysgolion uwchradd yn cynnal eu nosweithiau agored yn yr wythnosau nesaf, a all fod yn gyfle gwych i rieni, gwarcheidwaid a phlant ymweld ag ysgolion i gael syniad o sut lefydd ydyn nhw. Mae manylion y Nosweithiau Agored i’w gweld ar wefan y cyngor.

Dosbarth Derbyn

Os yw’ch plentyn yn troi’n 4 oed y flwyddyn academaidd hon, gan gynnwys y rhai sydd ar ddechrau mewn meithrinfa, mae bron yn bryd gwneud cais am eu lle ysgol amser llawn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Nid yw symud i’r dosbarth derbyn o’r meithrin yn broses awtomatig, mae angen i chi wneud cais ar wahân. 

Ceisiadau’n agor: 22 Medi 2025.  Dyddiad cau: 17 Tachwedd 2025.

Addysg i rai 3 oed

Os yw’ch plentyn yn troi’n 3 oed y flwyddyn academaidd hon, mae yna ychydig o gamau addysg y gallech efallai wneud cais amdanynt. 

Meithrin

Mae pob plentyn sy’n cyrraedd eu trydydd pen-blwydd cyn 31 Awst yn gymwys i wneud cais am le Meithrin mewn ysgol.  Ceisiadau’n agor:  6 Ionawr 2026.  Dyddiad cau:    16 Chwefror 2026.

Addysg gynnar wedi’i ariannu

Gall plant sydd â’u pen-blwydd yn 3 oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr  wneud cais am le addysg gynnar a ariennir ar gyfer mis Ionawr. Ceisiadau’n agor:  1 Medi 2025.  Dyddiad cau:    24 Hydref 2025. 

Gall plant sy’n cael eu pen-blwydd yn 3 oed rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth wneud cais am le Addysg Gynnar a Ariennir ar gyfer mis Ebrill.  Ceisiadau’n agor: 3 Tachwedd 2025.  Dyddiad cau: 19 Rhagfyr 2025

Mae Addysg Gynnar a Ariennir ar gael mewn sawl ysgol a meithrinfeydd cofrestredig.  Mae rhestr lawn o ddarparwyr ar gael ar y wefan. 

Os yw’ch plentyn yn gymwys i gael Addysg Gynnar a Ariennir, dylech wneud dau gais:  Addysg Gynnar a Ariennir A CHAIS Meithrin. 

Sut i wneud cais

Mae pob cam addysg yn gofyn am gais newydd ac ar wahân, a phob blwyddyn mae’r lleoedd sydd ar gael yn cael eu dyrannu yn unol â’n polisi derbyn.  

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Camau derbyn ar wefan y Cyngor.

Dwedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd rhieni a gwarcheidwaid yn dechrau edrych ar opsiynau i’w plant wrth iddynt baratoi ar gyfer cam nesaf eu taith addysg. Rydym am wneud yn siŵr bod y broses mor llyfn a hawdd â phosibl. Y ffordd orau yw gwneud cais trwy’r porth ar-lein ar ein gwefan.  Fel hyn, bydd rhieni yn derbyn cadarnhad ar e-bost bod y tîm derbyn wedi derbyn eich cais, yn gallu olrhain statws eu cais, ac ar y diwrnod cynnig cenedlaethol byddant yn gallu gweld canlyniad eu cais ar y porth.”   

I gael rhagor o wybodaeth neu os oes angen i chi wneud cais ar fformat arall, cysylltwch â’r tîm derbyn yn admissions@wrexham.gov.uk.

Peidiwch â’i gadael hi’n rhy hwyr.

Bydd ceisiadau a wneir wedi’r dyddiad cau yn cael eu derbyn, ond mae’n rhaid i ni roi blaenoriaeth i geisiadau gyrhaeddodd mewn pryd.  Dim ond ar ôl rhoi lleoedd i bob cais a gyrhaeddodd mewn pryd y caiff ceisiadau hwyr eu hystyried.  Mae hyn yn golygu y gallai ymgeisydd mewn pryd sy’n byw bellter sylweddol o ysgol gael lle mewn ysgol cyn ymgeisydd hwyr sy’n byw gerllaw’r ysgol. 

Mae’n bwysig iawn cyflwyno’ch cais cyn y dyddiad cau i roi’r cyfle gorau i chi dderbyn cynnig ar gyfer yr ysgol a ffefrir gennych. 

Gwneud cais i sir wahanol

Os ydych chi’n byw mewn sir wahanol ond yn dymuno gwneud cais am ysgol yn Wrecsam, neu os ydych chi’n byw yn Wrecsam ond yn dymuno gwneud cais am ysgol yn rhywle arall, darllenwch y wybodaeth ar ein gwefan yn ofalus i wirio ble dylech wneud eich cais.  

Mae gennym gytundeb rhannu data gyda nifer o’n hawdurdodau cyfagos, ac yn y rhan fwyaf o achosion dylech wneud cais i’r Awdurdod Lleol lle rydych chi’n byw a rhestru eich holl ysgolion dewisol ar yr un cais hwnnw.   Mae’r timau derbyn i ysgolion ym mhob awdurdod yn siarad â’i gilydd drwy ein trefniadau trawsffiniol, felly nid oes angen dyblygu ceisiadau rhwng Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Swydd Amwythig yn y cam uwchradd, neu rhwng Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint ar y cam cynradd. 

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Red Ensign Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol
Erthygl nesaf Recycling Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English