Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyma adeg honno’r flwyddyn eto…sicrhewch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad nesaf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dyma adeg honno’r flwyddyn eto…sicrhewch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad nesaf
Pobl a lleY cyngor

Dyma adeg honno’r flwyddyn eto…sicrhewch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad nesaf

Diweddarwyd diwethaf: Awst 13, 2020 4:40 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Dyma adeg honno’r flwyddyn eto…sicrhewch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad nesaf
RHANNU

Rydym wedi dechrau anfon ffurflenni’r wythnos hon, yn gofyn i bobl wirio a diweddaru’r wybodaeth am eu haelwyd ar y gofrestr etholiadol. Ydych chi wedi ei derbyn eto?

Cynnwys
  • Mwy o bobl nag erioed yn gymwys i bleidleisio!
  • “Proses hawdd iawn”

Rydym yn galw hyn yn ”Canfasiad Blynyddol” ac mae’n bwysig ei wneud i sicrhau bod pawb sy’n gymwys i bleidleisio, wedi cofrestru. Efallai nad ydych ar y ffurflen oherwydd eich bod newydd symud i dŷ newydd neu wedi troi’n gymwys i bleidleisio’n ddiweddar.

Mwy o bobl nag erioed yn gymwys i bleidleisio!

A gyda’r newidiadau newydd sy’n caniatáu i bobl ifanc o 16 mlwydd oed, a dinasyddion tramor cymwys 16 oed ac uwch i bleidleisio yn yr etholiadau nesaf mae’n debygol bydd angen i sawl un ohonoch ddiweddaru’r wybodaeth am eich aelwyd.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Mae’n ofyniad cyfreithiol ar bawb i ymateb i’r Canfasiad Blynyddol. Mae’n broses syml, sy’n cymryd munudau’n unig, a’i wneud ar-lein yw’r ffordd symlaf.

Yn syml, os nad ydych ar y gofrestr, nid ydych yn gallu pleidleisio. Cyn gynted ag y byddwch yn derbyn y ffurflen, gwiriwch y manylion os gwelwch yn dda. Yna, mae gennych y dewisiadau canlynol:

  • Os nad yw eich manylion wedi newid, ewch i www.householdresponse.com/wrexham, ffoniwch 0800 197 9871 neu anfonwch y neges destun NOCHANGE gan gynnwys y ddwy ran o’ch cod diogelwch at 80212 – codir tâl safonol
  • Os oes angen diweddaru eich manylion neu os oes angen ychwanegu neu gael gwared ar unrhyw beth, ewch i www.householdresponse.com/wrexham i wneud y newidiadau angenrheidiol. Unwaith rydych wedi gwneud hyn, dylai pobl newydd gofrestru’n unigol ar www.gov.uk/register-to-vote
  • Fel arall, diwygiwch/cwblhewch y ffurflen a’i dychwelyd atom ni, ond bydd angen i unrhyw bobl newydd gael eu cofrestru’n unigol ar www.gov.uk/register-to-vote

“Proses hawdd iawn”

Dywedodd y Cyng. David Kelly, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Cofrestru: “Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n ymateb cyn gynted â phosib er mwyn i ni allu sicrhau bod gennym y manylion cywir ar y gofrestr etholiadol, i chi a’r bobl sy’n byw gyda chi. Mae’n broses hawdd iawn.

“Mae angen i bobl fod yn ymwybodol bod pobl ifanc 16 ac 7 oed a gwladolion tramor sy’n Byw yng Nghymru nawr yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru, felly mae’n bwysig bod y bobl hyn yn cael eu hychwanegu i’w caniatáu i leisio eu barn yn yr etholiad nesaf.”

Cofiwch ei fod yn ofyniad cyfreithiol i nodi’r wybodaeth y gofynnir amdani yn y Canfasio Blynyddol. Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 am beidio gwneud, felly cymrwch y camau perthnasol i sicrhau nad ydych yn colli cyfle i bleidleisio.

Gallai’r newidiadau hyn i’r drefn bleidleisio effeithio ar y bobl ifanc yn eich bywydau…rhowch wybod iddynt

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol A-level Gogledd Cymru yn ymateb i ganlyniadau Lefel-A
Erthygl nesaf free workshop, Wrexham businesses, Wrexham business owners, export your website workshop Newyddion i Fusnesau yn Wrecsam (13.08.20)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Medi 18, 2026
Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 18, 2026
North Wales Police
Cefnogi Ymgyrch Spotlight sy’n canolbwyntio ar yrwyr ifanc
Arall
Medi 18, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor
Medi 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a'r cyffiniau
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a’r cyffiniau

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Crematorium
Y cyngor

Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan

Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Pobl a lle

Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English