Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyma brentisiaeth TGCh sydd yn gyfle rhy dda i’w golli
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Dyma brentisiaeth TGCh sydd yn gyfle rhy dda i’w golli
Busnes ac addysg

Dyma brentisiaeth TGCh sydd yn gyfle rhy dda i’w golli

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 26, 2021 2:27 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Dyma brentisiaeth TGCh sydd yn gyfle rhy dda i’w golli
RHANNU

Efallai eich bod chi eisoes yn gwybod sut beth yw gyrfa ym maes technoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Fel sawl swydd, mae wedi creu stereoteip penodol dros amser, ac nid ydynt yn rhai glamoraidd bob amser.

Cynnwys
  • Ein tîm gwych
    • Allwch chi fod yn rhan o’n tîm?
      • Oes gennych chi ddiddordeb?

Mae TGCh yn gwneud i chi feddwl am swyddfa boeth, yn syllu ar yr un sgrin cyfrifiadur a gweithio oriau maith, heb lawer o gwmni…ond nid dyma’r achos os fyddwch yn gweithio i ni ????

Ein tîm gwych

Mae ein tîm technegol yn cynnig cefnogaeth i dros 2,500 o staff y cyngor – nid cymorth dros y ffôn yn unig yw hyn…mae ein tîm yn teithio i wahanol adeiladau’r cyngor ac yn rhoi cymorth ochr y ddesg i’n gweithwyr.

Mae ein tîm yn cadw rheolaeth ar ein holl dechnoleg fel bod gweithwyr eraill y cyngor yn gallu darparu gwasanaethau pwysig i Wrecsam gyda chyn lleied o ymyrraeth â phosib’.

Allwch chi fod yn rhan o’n tîm?

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cymorth TGCh (Prentis Modern), felly os ydych yn ifanc ac yn awyddus am her, darllenwch ymlaen.

Mae’n brentisiaeth yn 37 awr yr wythnos, gyda graddfa gyflog prentis a byddwch wedi’ch lleoli yn yr Hen Lyfrgell ar Sgwâr y Frenhines.

EISIAU GWYBOD MWY – EDRYCHWCH AR EIN GWEFAN

Rydym yn chwilio am rywun gydag o leiaf pum cymhwyster TGAU (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg), a byddai profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office hefyd yn ddefnyddiol.

Mae’n bwysig deall nad yw hon yn rôl TGCh arferol, mae hon yn swydd sydd wedi’i chanolbwyntio ar gwsmeriaid, gyda llawer o ryngweithio, felly er bod sgiliau TGCh sylfaenol yn bwysig, byddwch angen brwdfrydedd a sgiliau addasu a chyfathrebu ardderchog hefyd.

A pheidiwch â meddwl bod ein prentisiaethau wedi’u lleoli yn yr ystafell ddosbarth yn unig…byddwch yn cael profiadau ymarferol o roi cymorth TGCh – wedi’r cyfan, dyma’r ffordd orau o ddysgu ????

Mae’n gyfle i wella eich sgiliau a chael profiad ymarferol gwerthfawr, a chael cyflog wrth wneud hynny ????

Byddwch yn cwblhau BTEC lefel 2 a 3 Diploma mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG a Telathrebu.

Mae ein prentisiaid yn cael eu trin fel ein gweithwyr eraill, gyda chontract cyflogaeth a gwyliau.

Oes gennych chi ddiddordeb?

Am ragor o wybodaeth am ein prentisiaethau TGCh, cliciwch ar y ddolen isod i weld y swydd-ddisgrifiad llawn.

Os ydych chi’n credu bod gennych y sgiliau sydd eu hangen, y cam nesaf yw ymgeisio – dyma ran gyntaf eich siwrnai gyffrous gyda ni ????

Y dyddiad cau yw 12 Rhagfyr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://saas.zellis.com/wrexham/wrl/pages/vacancy.jsf?latest=01004913&language=cy”] IE…DWI EISIAU GWELD Y SWYDD! [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Christmas Y Goeden Nadolig wedi ei goleuo ac yn barod ar gyfer y Nadolig diolch i Aur Clogau!
Erthygl nesaf Wrexham Library Llythyrau at Sion Corn yn Llyfrgell Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
All Saints School Pupils
Busnes ac addysgPobl a lle

Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!

Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam

Hydref 6, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English