Rydym yn gwahodd gweithwyr proffesiynol busnes ledled Wrecsam i gymryd rhan mewn cynhadledd undydd ysbrydoledig fis nesaf.
Ar ôl llwyddiant y llynedd, mae Dyrchafu Eich Busnes yn Wrecsam yn ôl, gyda’r gynhadledd yn cael ei chynnal ar Gae Ras Bangor-on-Dee ddydd Gwener, 19 Medi rhwng 9:30am a 5pm.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Gyngor Wrecsam, gyda chymorth Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol y Cyngor dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae hwn yn gyfle gwych i ddod ynghyd â fusnesau lleol eraill i rwydweithio a rhannu syniadau, ac mae’r cyfan yn rhan o’n gwaith i greu’r amodau ar gyfer twf busnesau lleol.
“Yn union fel y llynedd, bydd gennym gyfres wych o siaradwyr, gan gynnwys arweinwyr dyfeisgarwch ac arbenigwyr diwydiant o ledled y byd, a hefyd arloeswyr lleol sy’n creu twrw ym myd busnes.
“Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly cofrestrwch nawr a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhan o’r digwyddiad busnes arbennig hwn.”
Ymhlith y siaradwyr yn y gynhadledd eleni mae Martin McCourt, cyn Brif Swyddog Gweithredol Dyson, a Linda Moir, a fu’n rheoli gwasanaethau digwyddiadau yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
Byddwch hefyd yn clywed am brosiectau mawr fel Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam, rhaglen adfywio Porth Wrecsam a chais Dinas Diwylliant 2029. I ddarganfod mwy ac archebu eich lle, ewch ar wefan Cyngor Wrecsam.