Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol

Diweddarwyd diwethaf: Awst 19, 2025 3:34 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Home-Start Baby Bank project
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam a Home Start Wrecsam yn dathlu llwyddiant prosiect Banc Offer Babanod, a gefnogodd 83 o deuluoedd dros gyfnod o flwyddyn.

Mae’r prosiect Banc Offer Babanod, a ddarperir gan Home Start Wrecsam, yn casglu offer babanod o ansawdd uchel a’i ailddosbarthu i deuluoedd ledled Wrecsam trwy system atgyfeirio.

Gyda chyllid gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru rhwng 2024 a 2025, a gyda chefnogaeth Cyngor Wrecsam, llwyddodd y prosiect i helpu mwy o bobl gyda mwy o eitemau, a chyrraedd ardal ehangach.

Rhoddodd y prosiect gefnogaeth hanfodol i deuluoedd lleol wrth hyrwyddo cynaliadwyedd a lleihau gwastraff, gan ddangos pŵer partneriaeth rhwng llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol.

Roedd y cyflawniadau allweddol yn ystod 2024-25 yn cynnwys:

  • Dros 1,983kg o eitemau babanod wedi’u dargyfeirio o safleoedd tirlenwi
  • 83 o deuluoedd yn cael eu cefnogi gyda mwy na 188 o eitemau unigol
  • Sefydlu sawl pwynt casglu yn y gymuned, gan leihau allyriadau cyflenwi
  • Recriwtio a hyfforddi naw gwirfoddolwr newydd, gan gryfhau cynaliadwyedd hirdymor
  • Ymgysylltu â busnesau lleol ac elusennau ar gyfer partneriaethau storio a rhoddion

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr Hinsawdd: “Yn ystod y flwyddyn fe wnaeth y Banc Offer Babanod wirioneddol gael effaith barhaol trwy gefnogi’r gymuned leol, lleihau gwastraff a lleihau allyriadau carbon. Diolch yn fawr i bawb sy’n cymryd rhan.”

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Hyrwyddwr Gwrth-Dlodi: “Daeth prosiect Band Offer Babanod ag offer babanod o ansawdd uchel i 83 o deuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol yn ystod cyfnod o gostau byw cynyddol, sy’n hynod ganmoladwy. Da iawn bawb!”

Home Start Wrecsam

Mae Home Start Wrecsam yn fudiad gwirfoddol hirsefydlog sy’n cefnogi teuluoedd drwy feichiogrwydd a phlentyndod cynnar.

Mae’r tîm yn parhau i gyflawni prosiect Banc Offer Babanod gyda phrosesau a phartneriaethau newydd ar waith nawr y cyfnod o gyllid yr Economi Gylchol wedi dod i ben.

Dywedodd Pam Hoyle, Cyfarwyddwr Home-Start: “Mae’r prosiect Banc Offer Babanod yn cefnogi nod Home Start i roi sicrwydd i rieni nad oes angen pethau newydd disglair ar fabanod a phlant, mae angen perthnasoedd cariadus a meithrin arnynt.

“Mae’r cyllid wedi ein galluogi i recriwtio a hyfforddi tîm gwych o wirfoddolwyr. Mae’r gwirfoddolwyr hynny bellach yn arwain hyn a gallant gyfeirio teuluoedd at ffynonellau eraill o gymorth pan fo angen i wneud yn siŵr bod Home Start yn cyrraedd rhieni pan fydd ein hangen arnyn nhw fwyaf.”

Drwy gydol ei gyflawni, roedd y prosiect yn cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gefnogi amcanion fel ‘Cymru Fwy Cyfartal’, ‘Cymru Gydnerth’, a ‘Cymru sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang’.

Ewch i wefan Home Start Wrecsam i ddysgu mwy am y Banc Offer Babanod.

Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

TAGGED:decarbonisation
Rhannu
Erthygl flaenorol Hedgehog Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Erthygl nesaf funding Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English