Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio gyda Cymru Gynnes i ddatblygu trefniant partneriaeth, lle bydd Cymru Gynnes yn rheoli pob ymholiad yn ymwneud â cheisiadau am gyllid ECO 4 ar ran Cyngor Wrecsam.
Beth yw cyllid ECO 4?
Mae Rhwymedigaeth Cwmni Ynni 4 (ECO 4) yn rhwymedigaeth ar gyflenwyr ynni sy’n helpu perchnogion tai neu rentwyr preifat i leihau eu biliau ynni, ac felly lleihau allyriadau carbon drwy osod mesurau arbed ynni.
Bydd angen i rentwyr preifat gael cytundeb eu landlord er mwyn i unrhyw waith gael ei gwblhau a bodloni’r meini prawf cymhwysedd angenrheidiol.
Bydd y cynllun yn parhau tan fis Mawrth 2026 ac mae’n canolbwyntio ar leihau tlodi tanwydd mewn aelwydydd incwm isel a diamddiffyn sy’n byw mewn tlodi tanwydd a/neu sydd â phroblemau iechyd corfforol neu feddyliol sy’n gwaethygu drwy fyw mewn amodau oer.
Mae pob un o’r contractwyr wedi’u cymeradwyo gan Trustmark ac wedi’u fetio’n drylwyr gan Cymru Gynnes. Bydd rhestr yn cael ei chyhoeddi ar wefan Cymru Gynnes, ynghyd â’r holl wybodaeth berthnasol arall ar y Cynllun.
Os credwch y gallech fod yn gymwys ar gyfer Cyllid ECO, gallwch wneud cais drwy un o’r contractwyr cymeradwy a restrir ar Wefan Cymru Gynnes, yn seiliedig ar ba fesur yr hoffech gael ei osod.
Bydd y contractwr cymeradwy yn cysylltu â chi i gynnal arolwg a nodi pecyn o welliannau sy’n addas ar gyfer eich eiddo.
Gallai’r gwelliannau gynnwys:
- Inswleiddio atig
- Inswleiddio to ar oleddf
- Inswleiddio to fflat
- Inswleiddio ystafell yn y to
- Insiwleiddio wal geudod
- Inswleiddio waliau allanol
- Inswleiddio waliau mewnol
- Inswleiddio’r llawr (llawr soled neu lawr crog)
- Pympiau gwres yr awyr
- Pympiau gwres o’r ddaear
- Boeleri nwy
- Boeleri trydan
- Boeleri biomas
- Rheolyddion gwresogi
- Gwresogyddion stôr trydan
- Paneli solar ffotofoltaig
- Drysau allanol perfformiad uchel
- Gwydr ffenestri
- Atal drafft
I gael gwybod mwy, ewch i Wefan Cymru Gynnes.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Peidiwch â chael eich twyllo gan fenthycwyr arian didrwydded y ‘Dolig hwn
.