Mae band poblogaidd wedi cyhoeddi ail ddyddiad yn Nhŷ Pawb ar ôl i’w gyngerdd cyntaf werthu allan!

Mae The Trials of Cato, sy’n tarddu o ogledd Cymru a Swydd Efrog, yn fand poblogaidd iawn ar y sîn werin yn y DU. Tra’r oeddent yn byw yn Libanus treuliont flwyddyn yn berwi gwreiddiau eu sŵn i greu croesiad o ddylanwadau traddodiadol a gyfareddodd cynulleidfaoedd Libaneaidd yn lleoliadau mwyaf y wlad.

Eu hail ddyddiad yw 19 Ebrill ac mae’r tocynnau’n costio £8. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 7.30pm.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

“Darganfyddiad go iawn ar y gylched werin”

Ers iddyn nhw symud yn ôl i’r DU maen nhw wedi bod yn perfformio’n ddiflino ar hyd a lled y wlad, ac yn ôl Mark Radcliffe o BBC Radio 2 maen nhw’n “un o’r darganfyddiadau go iawn ar y gylchdaith werin yn ddiweddar.” Mae eu datblygiad cerddorol yn y cyfnod yn arwain at ryddhau eu halbwm gyntaf wedi bod yn gyflym a sicr, ac maen nhw wedi ennill llawer o ganmoliaeth am Hide and Hair ac wedi cael eu clywed ar orsafoedd radio cenedlaethol BBC Radio 2 a Radio 6.

Canmolir amrywiaeth eu deunyddiau a’u dylanwadau, ac mae sioe fyw The Trials of Cato “bob amser yn syfrdanu’r gynulleidfa ble bynnag y byddant yn chwarae.” P’un a ydynt yn canu ar y stryd, perfformio o flaen miloedd mewn gwyliau ledled Ewrop, neu’n gwerthu holl docynnau eu sioeau clwb eu hunain, mae’r gwynt yn bendant yng nghefn y band The Trials of Cato.

“Un o ddarganfyddiadau go iawn ar y gylchdaith werin yn ddiweddar” – Mark Radcliffe, BBC Radio 2

 “Stwff hudolus” – Cerys Matthews, BBC Radio 6

 “Rhodresgar a gloyw” – The Guardian

 “Os oes albwm gyntaf fwy cyffrous gan fand gwerin eleni, nid wyf wedi’i chlywed” – Folk Radio UK

 “Maen nhw fel ‘Sex Pistols’ gwerin” – John Davis, Metropolis Studios (Led Zeppelin Mothership, Royal Blood)

Bydd hon yn sioe seddi yn unig ym Man Perfformio Tŷ Pawb.

Cofiwch y dyddiad: 19 Ebrill – tocynnau’n costio £8.  Bydd y digwyddiad yn dechrau am 7.30pm.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB