Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ehangu’r gwasanaeth ailalluogi yn helpu mwy o breswylwyr i wella’n ddiogel gartref
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ehangu’r gwasanaeth ailalluogi yn helpu mwy o breswylwyr i wella’n ddiogel gartref
Y cyngor

Ehangu’r gwasanaeth ailalluogi yn helpu mwy o breswylwyr i wella’n ddiogel gartref

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 9, 2026 12:11 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Ehangu’r gwasanaeth ailalluogi yn helpu mwy o breswylwyr i wella'n ddiogel gartref
RHANNU

Mae’r gwasanaeth Ailalluogi wedi ehangu mewn ymateb i’r galw cynyddol a’r angen i gefnogi pobl a oedd yn aros yn yr ysbyty wrth aros i ddarparwr gofal hirdymor gychwyn eu pecyn gofal.  

Ym mis Rhagfyr 2025, cyflwynwyd cynllun peilot Gwasanaeth Rhyddhau Cyflym fel elfen ychwanegol o’r Gwasanaeth Ailalluogi.  

Mae’r fenter yn galluogi pobl i ddychwelyd adref yn ddiogel wrth aros am drefniadau gofal tymor hwy, yn hytrach nag aros yn yr ysbyty yn ddiangen.

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi’r broses o ryddhau o’r ysbyty yn amserol, yn helpu i ryddhau gwelyau ysbyty i’r rheini sy’n aros am driniaeth, ac yn sicrhau bod pobl yn derbyn gofal a chymorth yn y lleoliad mwyaf priodol. 

Sefydlwyd tîm Rhyddhau Cyflym pwrpasol i gyflawni’r cynllun peilot, sy’n cynnwys arweinydd tîm a chwe staff cymorth, gan ddarparu gwasanaeth ledled y fwrdeistref.

Mae’r Gwasanaeth Ailalluogi a Rhyddhau Cyflym bellach yn rhan sefydledig o Ofal Cymdeithasol i Oedolion, gyda chanolfan yn Ysbyty Maelor Wrecsam gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr iechyd proffesiynol, yn ogystal â swyddfa weithredol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. 

Mae’r tîm bellach yn cynnwys rheolwr cofrestredig, saith arweinydd tîm a phedwar deg chwech o weithwyr cymorth sy’n darparu gofal a chymorth i’r rheini sy’n defnyddio’r gwasanaeth. 

Mewn ymateb i’r galw cynyddol, cyflwynwyd capasiti staffio ychwanegol i gryfhau swyddogaethau asesu, gan ddarparu capasiti pellach i gefnogi asesiadau amserol a bodloni gofynion gweithredol cyflym y gwasanaeth. 

Mae’r tîm yn parhau i ymateb i nifer uchel o atgyfeiriadau, gan gefnogi pobl i gael eu rhyddhau o’r ysbyty o fewn cyfnod o 48 awr lle y bo hynny’n briodol.

Mae’r gwasanaeth hefyd wedi gweithio’n agos gyda’r tîm Gartref Gyntaf, gyda dau aelod o’r tîm arweinyddiaeth wedi’u lleoli yn yr ysbyty bob dydd i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf ar gael i gefnogi’r broses o ryddhau yn ddiogel ac yn amserol.

Rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, derbyniodd y Gwasanaeth Ailalluogi 493 o atgyfeiriadau, a darparodd gymorth i 389 o bobl.

O’r rhain, derbyniwyd 244 o atgyfeiriadau o fewn cyfnod o chwe mis, gan ddangos y galw parhaus a chynyddol am y gwasanaeth. 

Yn ystod y cynllun peilot Gwasanaeth Rhyddhau Cyflym tri mis, derbyniwyd 48 o atgyfeiriadau, gyda 25 o bobl yn cael eu cefnogi i ddychwelyd adref o fewn cyfnod byr. 

Arweiniodd hyn at arbediad cyfunol o 353 diwrnod gwely mewn ysbyty, a fyddai fel arall wedi eu treulio yn aros i ddarparwr gofal gymryd drosodd eu pecyn gofal. 

Mae’r gwasanaeth wedi derbyn adborth cadarnhaol gan weithwyr proffesiynol partner, gan gydnabod y perthnasoedd gwaith cydweithredol cryf a sefydlwyd gan y tîm. Mae hyn wedi’i gyflawni trwy bresenoldeb cyson yn yr ysbyty, ac ymweliadau rheolaidd â chleifion ar wardiau. 

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles i Oedolion, “Mae ehangu’r Gwasanaeth Ailalluogi a chyflwyno’r Gwasanaeth Rhyddhau Cyflym wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, gan helpu preswylwyr i ddychwelyd adref yn ddiogel a lleihau’r amser y mae angen iddynt ei dreulio yn yr ysbyty.”

“Mae’r gwaith hwn yn enghraifft gref o weithio mewn partneriaeth rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a chydweithwyr iechyd, gyda thimau yn gweithio ar gyflymder i gefnogi’r broses o ryddhau yn ddiogel ac yn amserol, wrth hefyd helpu i ryddhau gwelyau ysbyty i’r rheini sydd angen triniaeth.”

“Hoffwn ddiolch i’r staff sy’n ymwneud â hyn, am eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a’u tosturi. Mae eu gwaith yn helpu pobl i adennill annibyniaeth, gwella eu lles, a derbyn cymorth yn y lle cywir ar yr adeg gywir.” Mae’r effaith gadarnhaol a’r canlyniadau a gyflawnwyd drwy’r cynllun peilot bellach yn llywio achos busnes i roi’r Gwasanaeth Rhyddhau Cyflym ar waith yn barhaol.

Rhannu
Erthygl flaenorol Anti-social behaviour, broken window glass Rhoi gwybod am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – sut i ofyn am adolygiad achos
Erthygl nesaf Youth Services Survey - young peope Cwblhewch ein harolwg a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau ieuenctid yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English