Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhoi gwybod am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – sut i ofyn am adolygiad achos
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rhoi gwybod am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – sut i ofyn am adolygiad achos
Pobl a lleY cyngor

Rhoi gwybod am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – sut i ofyn am adolygiad achos

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 7, 2026 2:23 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Anti-social behaviour, broken window glass
RHANNU

Oeddech chi’n gwybod bod gan ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol (YG) parhaus hawl i ofyn am adolygiad achos mewn rhai amgylchiadau?

Gall unrhyw berson sydd wedi adrodd i asiantaethau am dri digwyddiad ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn cyfnod o chwe mis ofyn am adolygiad achos YG.

Gellir defnyddio’r Sbardun Cymunedol (Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) os ydych chi (fel y dioddefwr unigol) wedi gwneud y canlynol:

  • Adrodd i ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Heddlu Gogledd Cymru, landlord cofrestredig neu’r bwrdd iechyd am o leiaf dri achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cyfnod o chwe mis.
  • Rhoi gwybod am bob un o’r digwyddiadau hyn o fewn mis iddynt ddigwydd.
  • Rydych chi’n credu nad yw eich cwyn wedi cael sylw priodol neu nad oes unrhyw gamau gweithredu wedi’u cymryd.

Ni ellir defnyddio’r broses Adolygu Achosion YG i roi gwybod am droseddau cyffredinol, gan gynnwys troseddau casineb neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gan fod Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi digwydd yn ddiweddar, dyma gyfle da i atgoffa ein hunain am y broses.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol dros Bartneriaethau a Diogelwch Cymunedol: “Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn anghyfforddus ac yn frawychus, ac ar ei waethaf fe all ddifetha bywydau a dinistrio cymunedau. Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth o’r broses Adolygu Achosion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol fel ffordd o gadw trigolion yn ddiogel.”

Gallwch ddysgu mwy am Adolygiadau Achos YG ar ein gwefan.

Sut i roi gwybod am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Os ydych chi’n ddeiliad contract gyda Chyngor Wrecsam, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.

Neu gallwch roi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru yn uniongyrchol drwy ffonio 101 (999 mewn argyfwng), neu ar eu gwefan.

Gosod arwyddion dros dro i fynd i’r afael â mannau lle mae llawer o faw cŵn – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Hot weather Casgliadau biniau am weddill yr wythnos hon (Gorffennaf 8-10)
Erthygl nesaf Ehangu’r gwasanaeth ailalluogi yn helpu mwy o breswylwyr i wella'n ddiogel gartref Ehangu’r gwasanaeth ailalluogi yn helpu mwy o breswylwyr i wella’n ddiogel gartref

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref
Pobl a lle Arall
Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle

Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol

Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Pobl a lleDatgarboneiddio WrecsamDigwyddiadau

Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)

Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English