Mae’r gwaith o blannu coed fod i ddechrau ym Mharc Acton a Spider Park ar 20 Tachwedd i gyd-fynd ag Wythnos Hinsawdd Cymru.
Bydd thema Wythnos Hinsawdd Cymru 2022 yn canolbwyntio ar ddewisiadau hinsawdd a chyfraniad pwysig y gall y cyhoedd ei wneud i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Nawr fwy nag erioed, mae hi’n amlwg mai’r unig ffordd y gallwn ni fynd i’r afael â newid hinsawdd yw trwy gydweithio, a gallwch chi helpu drwy ymuno ag un o’n sesiynau plannu coed.
Cynhelir y sesiynau plannu coed rhwng 10-12pm a 1-3pm dydd Sul 20 Tachwedd.
Fe fyddwn ni’n plannu ar ochr Herbert Jennings o Barc Acton felly ewch draw i’r ardal chwarae ym Mharc Acton i gasglu rhaw a bwrw ati.
Fe fydd dros 3,000 o goed ifanc yn cael eu plannu ar draws y ddau safle, wedi’u hariannu gan Trees for Cities. Fe fydd y cynllun yn helpu i gysylltu ardaloedd coediog presennol y Parc er mwyn adeiladu coridor bywyd gwyllt rhwng cynefinoedd a chefnogi ein hymdrechion i storio carbon.
Mae’r gwaith yma hefyd yn cefnogi ein strategaeth Coed a Choetir a’n hymrwymiad i gynyddu canopi’r coed ar draws y Sir.
Rydym ni’n awyddus i gael cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer coed a choetiroedd yn Wrecsam ac rydym wedi creu Addewid Coetir Wrecsam fel ffordd o gynnwys y cyhoedd.
Os ydych chi’n pryderu am goed a choetiroedd yn Wrecsam, gallwch gytuno i’r addewid. Rydym eisiau i bawb, o unigolion i fusnesau a grwpiau cymunedol, roi eu cefnogaeth a dysgu am y ffyrdd y gallwn amddiffyn y cynefin hollbwysig yma. Gallwch arwyddo’r addewid ac ymuno â’n rhestr bostio yma.
Gallwch ddilyn Addewid Coetir Wrecsam ar Facebook a Twitter i gael y newyddion diweddaraf am weithgareddau a digwyddiadau.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI