Mae ein hadran Tai a’r Economi yn chwilio am aelodau newydd i’w tîm… felly os oes gennych chi’r agwedd gywir a’r sgiliau i gyd-fynd â hynny, dylech gael golwg ar y swyddi hyn.
Clerc Gwaith x2
Mae ein clerc gwaith yn rheoli ac yn goruchwylio nifer o brosiectau tai parhaus, gan sicrhau ein bod yn cyflawni Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Mae hyn yn cynnwys rheoli ein contractwyr adeiladu a thechnegol o ddydd i ddydd. Mae’n swydd lle byddwch yn gwireddu ein cynlluniau drwy eich gwaith cynllunio rhagorol.
Rydym yn chwilio am ddau o bobl i’n helpu i gynnal ein safonau uchel ac ychwanegu gwerth i’n tîm ymroddedig. Ydy hyn yn swnio fel rhywbeth y gallech chi ei wneud?
Bydd y bobl lwyddiannus yn gwybod sut i ddelio â heriau ar y safle drwy wneud penderfyniadau a dod o hyd i atebion. Ai chi yw’r datryswr problemau i ni?
Ond bydd angen i chi fod yn gymwys neu fod â phrofiad perthnasol yn y diwydiant adeiladu.
Oes gennych chi ddiddordeb? Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y swydd-ddisgrifiad llawn. Y dyddiad cau ydi dydd Sul, 15 Mawrth.
EWCH Â FI AT Y SWYDD
Syrfëwr Adeiladau x3
Rydym hefyd yn hysbysebu am dri Syrfëwr Adeiladu i roi gwasanaeth arolygon proffesiynol i’n heiddo.
Rydym yn chwilio am y bobl gywir a fydd yn helpu adfer cartrefi mewn modd amserol ac effeithlon, gan fodloni ein cwsmeriaid bob amser.
Rydym yn gofalu am 11,200 o dai ledled Wrecsam a bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cyfrannu at y gwaith o gynnal ein tai i’r safon uchaf.
Dyma rai o’r tasgau:
• Arolygon eiddo (mewnol ac allanol)
• Paratoi amserlenni gwaith
• Dod o hyd i ddatrysiadau i ddiffygion eiddo
• Rheol costau
• Gweinyddu contractau
• Asesiadau strwythurol
Yn y bôn, mae ein Syrfewyr Adeiladu yn gwneud yn siŵr bod ein tai yn cael eu trwsio a’u bod yn cyrraedd ein safonau mewn modd prydlon ac effeithlon 🙂
Ydych chi’n gallu gwneud y dasg?
Bydd angen i chi fod yn gymwys, ac mae mwy o fanylion am hynny yn y swydd-ddisgrifiad llawn. Y dyddiad cau ydi dydd Sul, 1 Mawrth.
EWCH Â FI AT Y SWYDD