IOs hoffech chi weld llwybrau cerdded a beicio gwell yn Wrecsam, yna cymerwch ran yn yr ymgynghoriad rydym ni’n ei gynnal ar hyn o bryd.
Mae cerdded a beicio ar gyfer eich siwrnai bob dydd yn cael ei alw’n “Teithio Llesol” ac mae’n cynnwys teithio i’r ysgol, i’r gwaith, i siopa neu i ddefnyddio gwasanaethau megis canolfannau iechyd neu ganolfannau hamdden. Nid yw’n cynnwys cerdded neu feicio at ddibenion hamdden.
Gall hyn olygu llwybr rydych eisoes yn ei ddefnyddio i gerdded neu feicio, y gellir ei wella i annog mwy o deithio llesol, neu lwybr nad yw’n bod eto, a fyddai’n helpu i annog mwy o bobl i’w ddefnyddio ar gyfer siwrneiau bob dydd, pe bai’n cael ei greu.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Bydd eich awgrymiadau’n cael eu hystyried a byddant yn rhoi gwybodaeth bwysig wrth ddatblygu’r Map Rhwydwaith Integredig, sef cynllun cerdded a beicio ar gyfer y Fwrdeistref Sirol a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2018.
“Rydym eisiau clywed eich safbwyntiau”
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell – Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydyn ni’n llwyr ymrwymo i’n dyletswyddau dan y Ddeddf Teithio Llesol a byddwn yn annog cymaint â phosib’ o’r trigolion i edrych ar yr ymgynghoriad ac ymateb iddo. Rydyn ni am glywed eich safbwyntiau chi ar sut i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal mwy o bobl rhag teithio’n llesol yn rhan o siwrneiau pob dydd. Mae’r wybodaeth rydych yn ei rhoi yn werthfawr, a bydd yn gymorth wrth i ni ddatblygu’r Rhwydwaith Teithio Llesol ar draws Wrecsam yn y dyfodol.”
Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma:
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.