Dewch i gyfarfod Emma Watson sydd nawr yn gweithio gyda ni mewn partneriaeth gyda Cadwch Gymru’n Daclus ar fenter Caru Cymru – y fenter genedlaethol fwyaf erioed i fynd i’r afael â sbwriel a gwastraff ar hyd a lled Cymru.
Fe fydd Emma yn brysur dros y blynyddoedd nesaf yn canolbwyntio ar pam fod sbwriel yn parhau i gynyddu a sut i fynd i’r afael â hyn. Bydd yn arwain ymgyrchoedd cenedlaethol i fynd i’r afael â baw ci, tipio anghyfreithlon a sbwriel ar ymyl y ffyrdd a’i bwriad fydd ceisio newid ymddygiad pobl wrth iddynt grwydro o amgylch yr ardal.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio’n galed i gefnogi’r ymgyrch ac maent wedi agor canolfannau casglu gwastraff gan alluogi mynediad rhad ac am ddim i ystod o offer ac yn ddiweddar maent wedi bod y tu ôl i ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru oedd yn weithredol tan Fehefin 13 2021.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Y weledigaeth ar gyfer Caru Cymru yw y bydd gwneud y peth iawn yn dod yn ail natur i bobl, o fynd â sbwriel adref a glanhau ar ôl eu cŵn, i ailgylchu wrth fynd o le i le ac ailddefnyddio a thrwsio.
Edrych ymlaen at gadw Wrecsam yn daclus
Wrth sôn am yr ymgyrch dywedodd Emma: “Dydw i erioed wedi dod ar draws unrhyw un sydd wedi cyfaddef eu bod yn taflu sbwriel, yn caniatáu i’w ci faeddu na’u bod yn tipio yn anghyfreithlon, ac eto mae hyn yn digwydd yn Wrecsam ac ar hyd a lled Cymru. Fe fyddaf yn ceisio mynd i’r afael â pham fod pobl yn gwneud hyn a sut y gallant newid eu hymddygiad a’u hagwedd tuag at yr amgylchedd yr ydym i gyd yn byw ynddo. Fe fydd yn her ond dwi’n edrych ymlaen at helpu i gadw Wrecsam yn daclus ac i gyfarfod llawer o grwpiau, unigolion a sefydliadau a fydd yn ymuno â mi i wneud gwahaniaeth.
Fe groesawodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, Emma i’r tîm a dywedodd: “Mae Emma yn frwdfrydig ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth a dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda hi i newid ymddygiad pobl fel ein bod i gyd yn gwerthfawrogi ac yn elwa o beidio â chael sbwriel a gwastraff yn Wrecsam.
Mae pobl yn Wrecsam ac ar draws Cymru yn cael eu hannog i ymuno â menter newydd Caru Cymru a gallant ymweld â gwefan Cadwch Gymru’n Daclus i ddarganfod mwy neu gallant e-bostio: carucymru@wrexham.gov.uk
Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF