Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – y marc ansawdd rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o safon – ac rydyn ni’n falch iawn bod 8 ardal yn Wrecsam wedi cadw eu statws Baner Werdd.
Bydd Parc Acton, Parc Gwledig Dyfroedd Alun, y Parciau, Parc Ponciau, Parc Gwledig Tŷ Mawr a Mynwent Wrecsam ynghyd ag enillwyr y wobr gymunedol, Maes y Pant a Phlas Pentwyn, i gyd yn chwifio’u baneri am y 12 mis nesaf.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae baneri’n cael eu rhoi i ardaloedd sydd â chyfleusterau gwych i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel ac yn ymrwymo i ddarparu mannau gwyrdd o safon.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n gamp arbennig i’r holl ardaloedd fod wedi cadw eu Statws Baner Werdd yn ystod cyfnod mor heriol. Hoffwn i ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi bod ynghlwm â nhw gan fod yr ardaloedd yma hyd yn oed yn bwysicach yn ystod y cyfyngiadau clo lleol wrth i bobl ddewis ymweld â nhw i wneud ymarfer corff a mwynhau’r tirlun hyfryd sydd gennym ni yn Wrecsam.”
Mae 224 o barciau a mannau gwyrdd ar draws y wlad wedi derbyn anrhydedd Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd – o barciau gwledig a gerddi ffurfiol i randiroedd, coetiroedd a mynwentydd.
Mae rhaglen Gwobr y Faner Werdd yn cael ei chynnal yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bu arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol un gwirfoddoli eu hamser ddechrau’r hydref i feirniadu’r safleoedd ar wyth maen prawf pendant, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chynnwys y gymuned.
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd i elusen Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig ydi parciau a mannau gwyrdd o safon i’n cymunedau ni. I nifer ohonom ni, maen nhw wedi bod yn fendith ar stepen ein drws ac yn dda i’n hiechyd a’n lles.
“Mae’r 224 o faneri a fydd yn chwifio eleni’n brawf o waith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol. Hoffwn i longyfarch a diolch i bob un ohonyn nhw am eu hymroddiad eithriadol.”
Mae rhestr lawn o enillwyr o wobr i’w gweld ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus https://www.keepwalestidy.cymru/cy
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG