Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Enwebwch eich sêr chwaraeon cymunedol ar gyfer y Gwobrau Chwaraeon
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Enwebwch eich sêr chwaraeon cymunedol ar gyfer y Gwobrau Chwaraeon
Pobl a lleY cyngor

Enwebwch eich sêr chwaraeon cymunedol ar gyfer y Gwobrau Chwaraeon

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 27, 2017 4:20 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Enwebwch eich sêr chwaraeon cymunedol ar gyfer y Gwobrau Chwaraeon
RHANNU

Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gwneud llawer o chwaraeon?

Efallai eich bod yn aelod o dîm neu glwb chwaraeon cymunedol lleol – neu efallai eich bod yn mynd â’ch plentyn i un.

Felly, mae’n debygol eich bod yn gwybod am rywun sy’n gwneud y mymryn bach ychwanegol hynny i gadw’r grŵp hwnnw i fynd – bod hynny trwy roi’r oriau i mewn wrth hyfforddi neu wneud y cyfan y gallant er mwyn sicrhau bod y maes a’r offer yn cael ei gynnal.

DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

Neu ydych chi’n hyfforddwr sydd wedi gweld un o’ch athletwyr yn chwalu’r rhwystrau ac yn ymarfer yn galed er mwyn cyflawni canlyniadau penigamp?

Y naill ffordd, mae arnom ni eisiau clywed gennych chi.

Bydd Gwobrau Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2018 a gefnogir gan Active Wrexham, yn cael eu cynnal ddydd Gwener 23 Chwefror 2018.

Bydd yr enwebiadau’n agor ar 1 Tachwedd ac rydym eisiau clywed oddi wrth unigolion, clybiau chwaraeon, ysgolion a gwirfoddolwyr.

Rydym yn awyddus i glywed oddi wrth gymaint o bobl â phosibl er mwyn sicrhau ein bod yn cydnabod ac yn anrhydeddu’r holl athletwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr hynny sy’n gwneud eu gorau i wneud Wrecsam yn ganolfan rhagoriaeth chwaraeon.

Categorïau

Dyma’r categorïau:

  • Personoliaeth Chwaraeon Iau’r Flwyddyn
  • Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn
  • Gwobr Gwasanaeth i Chwaraeon
  • Hyfforddwr y Flwyddyn
  • Personoliaeth Chwaraeon Anabl y Flwyddyn
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn
  • Sefydliad y Flwyddyn
  • Gwobr Cyflawniad NERS mewn Iechyd

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 15 Rhagfyr.

Dywedodd y Cyng. Paul Rogers, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi, sydd hefyd â chyfrifoldeb dros Chwaraeon a Hamdden: “Mae hyn yn hanfod ar gyfer unrhyw un sy’n adnabod rhywun sy’n rhoi o’u horiau neu wedi ymarfer yn galed yn eu clwb chwaraeon lleol.

“Mae cymaint o bobl allan yna yn helpu’n barhaus i wella chwaraeon lleol yn Wrecsam, ac mae llawer ohonynt yn arwyr di-ganmol nad ydynt yn cael y teilyngdod maent yn ei haeddu.

“Mae’r Gwobrau Chwaraeon yn ceisio rhoi’r gydnabyddiaeth yna iddyn nhw, ond mae angen i ni glywed amdanynt yn gyntaf – felly buaswn yn annog unrhyw un a fyddai’n haeddu’r gydnabyddiaeth honno i gysylltu ac i’w henwebu.”

I enwebu, naill ai e-bostiwch sportsawards@wrexham.gov.uk am ffurflen enwebu, neu ewch at y ffurflen enwebu ar-lein yma.

Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol free swimming Hanner tymor o gadw’n heini
Erthygl nesaf Wrexham Council community skip days Digwyddiad glanhau cymunedol llwyddiannus..

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English