Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adroddiad Estyn yn rhoi darlun cadarnhaol o addysg yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Adroddiad Estyn yn rhoi darlun cadarnhaol o addysg yn Wrecsam
Y cyngorBusnes ac addysg

Adroddiad Estyn yn rhoi darlun cadarnhaol o addysg yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 28, 2023 8:59 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Estyn
RHANNU

Mae Estyn wedi cadarnhau nad yw’r Gwasanaeth Addysg yn Wrecsam bellach yn achos pryder.

Yn ei adroddiad swyddogol, mae’r arolygiaeth addysg yn dweud bod Cyngor Wrecsam – sy’n cefnogi ysgolion ar draws y Fwrdeistref Sirol – wedi gwneud cynnydd digonol ers ei adroddiad arolygu mawr diwethaf yn 2019.

Mae’n manylu ar welliannau sylweddol yn y meysydd canlynol:

  • Canlyniadau gwell i ddysgwyr – yn enwedig mewn ysgolion uwchradd.
  • Presenoldeb ac ymddygiad gwell.
  • Cryfhau cydweithio ar draws timau gwahanol i gefnogi lles disgyblion.
  • Gwerthuso a chynllunio’n gwella.

Yn ôl Estyn, ni fydd yr Awdurdod Lleol bellach yn cael ei gategoreiddio ei fod yn ‘achosi pryder sylweddol’.  

Mae uwch arweinwyr yng Nghyngor Wrecsam yn dweud bod yr adroddiad cadarnhaol yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad staff ar draws y sefydliad ac mewn ysgolion lleol.

Sefyllfa gref

Yn 2019, mynegodd Estyn bryder am ysgolion uwchradd yn y Fwrdeistref Sirol, er ei fod yn cydnabod perfformiad cryf ar lefel ysgolion cynradd.

Ers hynny, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio’n galed i wella safonau a mynd i’r afael â materion.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynne, Aelod Arweiniol Addysg, “Rydym ni’n ffodus bod gennym ni dîm addysg anhygoel yma yn y Cyngor, ac mae eu gwaith caled ac ymroddiad yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad cadarnhaol iawn yma gan Estyn.

“Mae hi wedi bod yn siwrnai hir, ond rydym ni wedi gweithio’n galed iawn i ddangos bod addysg yn Wrecsam mewn sefyllfa gref ac y gall plant, pobl ifanc ac oedolion gael yr addysg sydd ei angen arnynt i’w paratoi ar gyfer bywyd llwyddiannus a hapus fel oedolion.

“Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau y gwelliant er gwaethaf yr amgylchiadau anodd a grëwyd gan y pandemig.  Fe hoffwn i hefyd ddiolch i Benaethiaid a staff mewn ysgolion ar draws y Fwrdeistref Sirol, ac i wasanaeth gwella ysgolion rhanbarth Gogledd Cymru y GwE, sydd wedi gweithio ar y cyd gyda ni.”

Estyn wedi cydnabod ein gwelliannau

Fe ychwanegodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam, “Pan fynegwyd y pryderon gan Estyn 2019, roeddem yn siomedig, ond wnaethom ni ddim claddu ein pennau yn y tywod.

“Fe wnaethom ymrwymo i fynd i’r afael â hyn yn uniongyrchol, ac fe wnaethom roi adnoddau ychwanegol mewn i addysg, ac mae hyn wedi cael effaith cadarnhaol.  Rydym ni’n falch bod Estyn wedi cydnabod ein gwelliannau, ond fyddwn ni ddim yn gorffwys ar ein bri, a byddwn yn parhau i wella wrth i ni symud ymlaen.”

“Fe hoffwn i ddiolch yn fawr i Karen Evans, ein Prif Swyddog Addysg.  Ers i Karen ymuno â ni yn 2020, mae hi wedi gwneud gwaith anhygoel, ac mae hi’n cael ei chefnogi gan dîm talentog ac ymroddedig o swyddogion, yn ogystal â Phenaethiaid a staff ysgol ar draws y Fwrdeistref Sirol. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar wefan Estyn.

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Sgyrsiau Carbon a Hinsawdd Wrecsam – dweud eich dweud!

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Parent Champions Cefnogwyr Rhieni, flwyddyn yn ddiweddarach…sut hwyl maent wedi’i gael
Erthygl nesaf Cycle to Work day Mae diwrnod Beicio i’r Gwaith yn prysur agosáu – ydych chi am gymryd rhan?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English