Pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth gofynnir i’r Bwrdd Gweithredol gytuno bod Wrecsam yn dod yn aelod o’r Grŵp Dinasoedd Allweddol.
Ffurfiwyd y Grŵp Dinasoedd Allweddol yn 2013 a bellach yn cynrychioli buddiannau 21 dinas, tref ac ardaloedd trefol mawr yn Lloegr a Chymru. Mae’r grŵp wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU a budd-ddeiliaid cenedlaethol a rhanbarthol eraill i agor cyfleoedd ar gyfer twf cynhwysol, rhanbarthol ac i hybu ffyniant economaidd y DU yn gyffredinol.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Daeth y gwahoddiad i ymuno â’r grŵp gan Gadeirydd y Grŵp Dinasoedd Allweddol, y Cyng. John Merry, Dirprwy Faer Dinas Salford, ac mae’n cydnabod statws Wrecsam fel ardal drefol fawr yng nghalon uchelgeisiau economaidd a chymdeithasol Gogledd Cymru.
Mae aelodaeth y grŵp yn cynnwys Salford, Preston, Sunderland a Blackpool yng ngogledd Lloegr a Chasnewydd yn ne Cymru.
Byddai aelodaeth o’r Grŵp Dinasoedd Allweddol yn gwneud datganiad clir ynghylch dyheadau Wrecsam ar gyfer yr economi lleol a byddai’n cynyddu ei allu i:
- Cyflwyno ein hachos ar gyfer buddsoddiad yn Wrecsam a’i chanol tref i lywodraethau’r DU a Chymru.
- Datblygu ymhellach ein ffordd o feddwl a dysgu gan eraill ynghylch datblygiad ardal drefol a’r ardal gyfagos yn Wrecsam.
- Sicrhau y cyflwynir dadl i lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynghylch buddsoddiad mewn dinasoedd a threfi llai ac nid dim ond canolfannau rhanbarthol e.e. Llundain, Caerdydd a De Orllewin Cymru.
- Dysgu yn sydyn gan eraill ynghylch sut rydym yn cefnogi’r economi ar ôl Covid 19.
Bydd Arweinydd y Cyngor yn cyflwyno’r adroddiad ddydd Mawrth 8 Rhagfyr. Byddwch yn gallu gwylio’r cyfarfod yn fyw ar ein gwefan o 10am. https://wrexham.public-i.tv/core/portal/home
Gallwch weld yr adroddiad llawn yma
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG