Rydym yn cymryd rhan yn Beacons of Light – digwyddiad cenedlaethol lle y bydd dros 1,000 o ffaglau yn cael eu cynnau ledled y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Thiriogaethau Tramor y DU.
Mae’r ffaglau yn symbol o roi terfyn ar dywyllwch rhyfel a dychwelyd i oleuni heddwch, ac fe fyddant yn talu teyrnged i’r miliynau a laddwyd neu a anafwyd mewn brwydrau, a’r rhai gartref a frwydrodd drwy boen a cholled i sicrhau goroesiad rhyddid.
Bydd Ffagl Oleuni Wrecsam yn cael ei chynnau am 7pm ar ben tŵr Eglwys San Silyn yng nghanol y dref, ac estynnir croeso cynnes i Aelodau’r Cyhoedd fynychu’r digwyddiad hwn.
Bydd Gwasanaeth Coffa at 6pm at Eglwys St Silyn, gyda’r Côr Rhos Orpheus a chyfle i ymuno gyda cherddoriaeth, geiriau a distawrwydd i fyfyrio ar ddigwyddiadau dros 100 mlwyddyn yn ôl. Mae croeso i bawb i fynychu’r gwasanaeth hwn cyn i’r goelcerth ei oleuo.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN